Mae chwe o reolwyr tîm cenedlaethol Cymru wedi chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.
Jimmy Murphy (West Bromwich Albion - 1935)
Walley Barnes (Arsenal - 1950)
Mike England (Tottenham Hotspur - 1967)
Terry Yorath (Leeds United - 1973)
John Toshack (Lerpwl - 1974)
Mark Hughes (Manchester United - 1985,1990, 1994, 1995; Chelsea - 1997)
Yn ogystal fe enillodd Bobby Gould fedal fel aelod o dîm West Ham United ym 1975 er mai eilydd ydoedd ar gyfer y gêm yn erbyn Fulham.

Mae saith Cymro wedi bod yn gapten tîm buddugol yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.
Yn ogystal â Fred Keenor ym 1927 mae Jack Jones(Tottenham, 1901), Billy Meredith (Manchester City, 1904), Roy Paul (Manchester City, 1956), Graham Williams (West Bromwich Albion, 1968), Peter Rodrigues (Southampton, 1976) a Kevin Ratcliffe (Everton, 1984) wedi arwain eu clybiau yn Wembley.
Mae tri Cymro wedi dyfarnu'r rownd derfynol yn Wembley ers yr Ail Ryfel Byd:
Mervyn Griffiths, Casnewydd - Blackpool v Bolton, 1953
Leo Callaghan, Merthyr Tudful - West Bromwich Albion v Everton, 1968
Clive Thomas, Treorci - Southampton v Manchester United, 1976
Ian Rush sydd yn dal y record am y nifer fwyaf o goliau yng Nghwpan yr FA wedi'r Ail Rhyfel Byd. Dim ond Henry Cursham o Notts County gyda 48 gôl rhwng 1877 a 1888 sydd wedi sgorio mwy na'r Cymro yn y gystadlaueth.
Sgoriodd Rush 44 gôl yn y gystadleuaeth rhwng 1979 a 1998 (39 i Lerpwl, 4 i Dinas Caer, 1 i Newcastle United).
Rush hefyd sydd â'r anrhydedd o sgorio y nifer fwyaf o goliau mewn rownd derfynol, gyda cyfanswm o bum gôl mewn pedair gêm i Lerpwl.
Sgoriodd ddwywaith yn erbyn Everton yn rowndiau terfynol 1986 a 1989 a sgoriodd yn erbyn Sunderland ym 1992.

Mae Mark Hughes wedi cipio mwy o fedalau enillwyr yn Wembley nag unrhyw chwaraewr arall a hynny gyda dau glwb gwahanol - Manchester United a Chelsea.
Sgoriodd Hughes ddwywaith yn erbyn Crystal Palace ym 1990 ac fe sgoriodd yn y fuddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Chelsea bedair mlynedd yn ddiweddarach.
Cymro arall sydd yn berchen pedwar medal enillwyr yw Ryan Giggs, oedd yn rhan o dîm Manchester United fu'n fuddugol ym 1994, 1996, 1999, 2004.
Yn ogystal mae Giggs wedi bod yn aelod o dîm United gollodd yn y rownd derfynol ar dair achlysur - ym 1995, 2005 a 2007.
Yn ogystal â Chaerdydd bu pum clwb arall o Gymru yn cystadlu yn y gystadleuaeth eleni sef Abertawe, Wrecsam, Casnewydd, Merthyr Tudful a Bae Colwyn.