Er gwaethaf y protestio a'r ymddiswyddo, aeth y 'Steddfod yn ei blaen. Ond er i'r Cymry heidio i'r hen sioe, 'roedd tân Penyberth yn bwrw cysgod ei fflamau dros yr ^Wyl. Yn ystod yr Eisteddfod ei hun, llosgwyd pwerdy trydan Machynlleth i'r llawr, yn ddamweiniol. Amheuai'r heddlu mai gweithred arall o brotest gan genedlaetholwyr Cymreig oedd hi, a holwyd nifer, Gwilym R. Jones, Prifardd Coron Eisteddfod 1935, yn eu plith. Cynhaliwyd protest danllyd arall ar y maes ym Machynlleth. Cythruddwyd aelod o'r Blaid Genedlaethol gan argymhelliad y Western Mail y dylai D.J.Williams ymddiheuro yn gyhoeddus am ei ran yng ngweithred Penyberth cyn y byddai'r awdurdodau'n rhoi ei swydd yn ôl iddo. Ceisiodd llond dwrn o genedlaetholwyr gynnal protest yn erbyn safbwynt y Western Mail drwy roi copi o'r papur ar dân yn gyhoeddus. Y Gaer Fechan Olaf Y 'Steddfod oedd 'caer fechan olaf' y Cymry yn ôl W.J. Gruffydd, ond bu'r gaer honno'n gwegian drwy gydol y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Safiad W.J. Gruffydd a'i gyd-brotestwyr, mewn gwirionedd, a achubodd yr eisteddfod rhag dirywio i fod yn ^wyl eilradd, ddiystyr. Canlyniad y brotest fu sefydlu'r rheol ym 1937 mai'r Gymraeg yn unig fyddai iaith swyddogol yr Eisteddfod, rheol na ddaeth i'w llawn rym, oherwydd yr ail Ryfel Byd a styfnigrwydd ambell un a barhai i areithio yn Saesneg, hyd Eisteddfod Caerffili ym 1950. Ar ôl holl gyffro Prifwyl Machynlleth, 'roedd gan yr Eisteddfod gyfansoddiad newydd, a chorff llywodraethol newydd. 'Roedd Cynan wedi diwygio'r Orsedd drwy ddod â rhagor o urddas i ddefodau'r cadeirio a'r coroni, gan gynnwys arwisgo'r bardd buddugol yng ngolwg y gynulleidfa, y ddawns flodau,a chyflwyno caneuon newydd i'r ddwy ddefod. Ym 1937 hefyd y dechreuwyd cydnabod Rhyddiaith o ddifri, drwy sefydlu cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. 'Roedd seiliau'r Eisteddfod yn ymddangos yn gadarnach nag erioed o'r blaen. Rhaglen 3... |