| Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Dewi Emrys yn ennill ei Gadair gyntaf, ar ôl mynych gystadlu. Canmolwyd yr awdl yn ormodol gan J. J. Williams a J. T. Job, a hynny oherwydd eu bod yn ymwybodol o'r diffyg teilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair ym 1927 a 1928, ac ar ôl i W. J. Gruffydd ddatgan yn Y Llenor fod oes yr awdl ar ben. Ceir rhai darnau telynegol derbyniol yn awdl Dewi Emrys, ond mae'r eirfa awdlaidd a mynegiant afrwydd yn ei handwyo, ac mae diffyg unoliaeth yn yr awdl yn ogystal. Y Goron Testun. Pryddest: 'Y Gân ni Chanwyd' Enillydd: Caradog Prichard Beirniaid: Wil Ifan, W. J. Gruffydd, Gwili Cerddi eraill: Pryddest gan Dewi Emrys a ffafriai Wil Ifan. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Dyma'r unig dro yn yr ugeinfed ganrif i'r un bardd ennill y Goron am y trydydd tro yn olynol. Cerdd gymhleth yw'r gerdd fuddugol, ac ynddi mae Caradog Prichard yn synio am Dduw fel Matriarch, fel Mam ofidus a gwallgof y cread, wrth iddo 'Weld y Goruchaf ar lun/ Gwallgofrwydd arglwyddes hardd'. Yng ngherddi eisteddfodol coronog Caradog Prichard mae'r ddynoliaeth yn ysglyfaeth i ryw bwerau tywyll, gwallgof. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |