Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl wych iawn am feichiogrwydd ei wraig ac am y profiad o ddod yn dad am y tro cyntaf. Y Goron Testun: Casgliad o gerddi ar y testun 'Gwreichion' Enillydd: Iwan Llwyd Beirniaid: Alan Llwyd, Geraint Bowen a T. James Jones Cerddi eraill: Y tu ôl i Iwan Llwyd yr oedd Robin Llwyd ab Owain ac Einir Jones. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Mae Iwan Llwyd yn mynd â ni yn ôl i flasu eto y chwerwder a'r siom a brofwyd un mlynedd ar ddeg ynghynt wedi i Gymru droi ei chefn ar Ddatganoli. Yn ei gerdd 'Hendref' mae'n rhoi disgrifiad perffaith o warth 1979: 'Mawrth y gwrthod a'r gwerthu'; ond wedi ystyried y brwydrau i warchod Cymreictod yn yr wythdegau, mae'r bardd yn gweld fod gobaith o hyd. Yn y cerddi hyn y mae Iwan Llwyd yn ceisio canu'r genedl yn ôl i'w bodolaeth. 'Roedd angen cenedl newydd arnom ar ôl claddu'r hen genedl yng nghynhebrwng y cynllun o blaid Datganoli. Mae'n gweld plentyn yn cael ei genhedlu mewn angladd yn y gerdd 'Angladd', hynny yw, yr oedd Cymru newydd yn codi o arch yr hen Gymru. Enw'r plentyn yw Rhys, gan awgrymu mai Rhys Gethin, ffugenw arweinydd Meibion Glynd^wr, oedd y plentyn hwnnw, plentyn cyntafanedig y Gymru newydd. Y Fedal Ryddiaith Cyfrol o straeon byrion Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Ddrama Drama hir Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Michael John Charnell-White Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |