Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Breuddwyd Hedd Wyn oedd ennill y Gadair ond bu raid iddo frwydro yn erbyn nifer o anawsterau. Yn y cyfnod hwn y duedd oedd i'r prifeirdd ddod o gefndir academaidd y colegau; cymharol ddiaddysg oedd Hedd Wyn, ac yn erbyn ei ewyllys yr ymunodd â'r Fyddin. Ar ôl iddo gwblhau ei awdl yn Ffrainc, ar y ffordd i Fflandrys, cafodd fymryn bach o drafferth i gael y gerdd heibio i sensoriaid y Fyddin, a ofnai fod perygl i Gymry Cymraeg ddatguddio cyfrinachau yn eu llythyrau Cymraeg. Pan gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod mai Fleur-de-lis oedd ffugenw'r bardd buddugol, ni safodd neb. 'Roedd y bardd buddugol wedi cwympo chwe wythnos ynghynt. 'Roedd y Rhyfel a'r Brifwyl, llwyfan a chyflafan, yn un. Yn awdl 'Yr Arwr' mae elfen o adlewyrchu'r gwrthdrawiad rhwng y newydd a'r hen, rhwng gwerthoedd y Gymdeithas Wrywaidd yn Oes Victoria a rhyddfrydiaeth a delfrydiaeth newydd degawd cyntaf y ganrif. Enghraifft o'r gwrthdaro hwn oedd ymgyrch y merched, a oedd yn rhan o'r ysbryd gwrthryfelgar a ysgubai drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o afael hualau gormesol y gorffennol. Credai T. Gwynn Jones mai'r ferch, a swffragetiaeth, a gynrychiolid gan 'Merch y Drycinoedd' yn yr awdl. Bu llawer o ddadlau ynghylch ystyr awdl Hedd Wyn, a llawer o anghytuno. Bu llawer o ddyfalu pwy oedd yr Arwr yn yr awdl, a phwy oedd 'Merch y Drycinoedd'. Yr oedd yr ateb i'w gael ym marddoniaeth Shelley, hoff fardd Hedd Wyn. Yr oedd dylanwad dwy o gerddi hir Shelley, Prometheus Unbound a The Revolt of Islam, ar awdl Hedd Wyn, a cheir creadigaethau debyg i Arwr Hedd Wyn a 'Merch y Drycinoedd' yn y ddwy gerdd hyn. Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol. Yr awdl hon, ar lawer ystyr, oedd cerdd fawr olaf y mudiad Rhamantaidd, er i'r mudiad hwnnw lusgo ymlaen, yn adlais egwan, i'r dauddegau. Y Goron Testun. Pryddest: ' Pwyll Pendefig Dyfed' Enillydd: Wil Ifan Beirniaid: Cadfan, Elfed, Gwili Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pryddest anarbennig yn y traddodiad chwedlonol-ramantaidd.Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |