Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Rhyw bedwar yn unig o'r deg cystadleuydd a fanteisiodd ar y testun penagored i sôn am y Rhyfel Mawr... Y Goron Testun. Pryddest, neu Arwrgerdd, ar un o'r testunau canlynol: 'Arglwyddes y Ffynnon', 'Llewelyn Bren', 'Mordaith Brñn', 'Trannoeth y Drin' Enillydd: James Evans ('Trannoeth y Drin') Beirniaid: W. J. Gruffydd, Wil Ifan, T. Gwynn Jones Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Er bod optimistiaeth ar ddiwedd y gerdd, cydnabu'r bardd buddugol fod yna anesmwythder wedi'r Rhyfel. Dangosodd James Evans nad oedd y meirwon wedi marw ac y byddent yn codi o'u beddau, yn union fel y golygfeydd hynny o filwyr yn atgyfodi yn ffilm Abel Gance, J'accuse, ym 1919. Am flynyddoedd i ddod fe fydden nhw'n codi o'u beddau ac yn dychwelyd i aflonyddu ar y byw. 'Roedd yn rhaid i rywun ateb y cwestiwn: pwy oedd yn gyfrifol am ladd ieuenctid y cenhedloedd?Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |