Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Nid awdl ar fesurau traddodiadol oedd hon, ond cerdd ar fesur y tri-thrawiad. Bu Cynan yn ffodus na chafodd ei 'awdl' ei diarddel o'r gystadleuaeth. John Morris-Jones a achubodd y dydd drwy nodi fod mesur y tri-thrawiad yn perthyn i ddosbarth Morgannwg o fesurau, sef y dosbarth a ddyfeisiodd Iolo Morganwg ei hun. Yn y gerdd hon, a oedd fel chwa o awyr iach ar y pryd oherwydd absenoldeb yr eirfa draddodiadol awdlaidd ynddi, y mae Cynan yn dechrau ailddarganfod ei ffydd. Y Goron Testun. Pryddest, ar un o'r testunau canlynol: ' Atgof', 'Dafydd ap Gwilym', 'Marchog yr Awyr' Enillydd: E. Prosser Rhys ('Atgof') Beirniaid: W. J. Gruffydd, Crwys, Gwili Cerddi eraill: Un o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a fanteisiodd ar y storm o brotest a ddilynodd i dynnu sylw at ei bryddest ei hun. Yr oedd yn ail gan ddau o'r beirniaid, ond 'roedd W. J. Gruffydd yn llawdrwm iawn ar ei gerdd. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Cododd storm o brotest yn sgîl coroni Prosser Rhys gan fod y bardd yn trin rhyw yn gignoeth agored yn ei bryddest, gan gynnwys gwrywgydiaeth. 'Roedd Prosser Rhys yn adlewyrchu'r chwalu ar yr hen safonau a oedd yn digwydd mewn diwylliannau eraill ar ôl y Rhyfel Mawr, megis yng ngweithiau James Joyce. Aldous Huxley a D. H. Lawrence. Enghraifft o'r ymateb anffafriol i'r gerdd yng Nghymru oedd erthygl a ysgrifenwyd gan y Parch. W. A. Lewis yn Y Brython: 'Nid rhyw sydd oruchaf, ac nid yw dyn yn gymaint caethwas iddi ag y myn y bardd hwn i ni gredu. Diau fod eithriadau, sef y bodau hynny a eilw'r Sais yn freaks of nature, ac os ydyw Prodder Rhys yn un o'r freaks hynny, y mae'n wrthrych tosturi. Hen dro go sâl oedd peri i aer Coron Prydain, yn ei anwybodaeth, goroni hen gerdd anfelys fel hon.' Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |