Ymateb a sylwadau Alan Llwyd 'Dim ond pedair awdl a dderbyniwyd i gystadleuaeth y Gadair, a bwriodd John Morris-Jones y bai am hynny ar y ffaith fod dau destun tebyg wedi eu gosod ychydig cyn 1915, 'Gwlad y Bryniau' (1909), 'Y Mynydd' (1912). Awdl ramantaidd ei dull a'i geirfa a gafwyd gan T. H. Parry-Williams, ond, fel 'Y Mynydd', yr oedd yn sylfaen i un o'i themâu pwysicaf yn y blynyddoedd i ddod, sef ymlyniad wrth fro a chanfod hunaniaeth yng nghyd-destun bro. Y Goron Testun. Pryddest: 'Y Ddinas' Enillydd: T. H. Parry-Williams Beirniaid: Alafon, Gwili, Eifion WynYmateb a sylwadau Alan Llwyd 'Roedd pryddest T. H. Parry-Williams yn seiliedig ar ei brofiad o fyw ym Mharis yn fyfyriwr. Ni fynnai Eifion Wyn eichoroni. Fe'i condemniodd hi am ei bod yn gogoneddu hunanleiddiaid, ac oherwydd ei bod yn anfoesol, yn enwedig y darn am y butain. 'Ni thrig dim da yn ei Ddinas ... Cynwysa, ym mhob caniad, olud o iaith a meddwl; ond iaith ydyw wedi ei throi'n drythyllwch, a meddwl wedi ei ddarostwng i oferedd, 'meddai Eifion Wyn. Mewn gwirionedd, 'Y Ddinas' yw'r gerdd eisteddfodol fodern gyntaf. ac mae'n arwyddocaol mai yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Mawr y lluniwyd y gerdd fodernaidd hon. Er mai yn y blynyddoedd 1909 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr. Moderniaeth oedd y mudiad a ddaeth i ddisodli Rhamantiaeth, er mai Realaeth, realism, oedd term y beirdd am y canu newydd hwn a oedd yn wynebu bywyd fel ag yr oedd yn ei holl noethni, ansicrwydd a hagrwch, gan fyw yn y presennol yn hytrach na ffoi i'r gorffennol. Cafwyd cnwd o gerddi modern/ realaidd ar ôl 1915 ac ar ôl y Rhyfel Mawr: cerddi rhyfel Cynan, 'Atgof', a cherddi Caradog Prichard. Ym 1915 yr oedd un traddodiad ar ei wely angau a'r llall yn ei grud, a gwaith un bardd yn dangos hynny yn glir. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |