| Bu'n rhaid aros hyd Eisteddfod 1921 yng Nghaernarfon i weld bardd yn cyfleu yr holl brofiad o erchylltra, newid byd, siom, colli ffydd a dadrithiad a ddaeth yn sgîl y Rhyfel pan enilliodd y cyn-filwr Cynan y Goron gyda'i bryddest ' Mab y Bwthyn'. Yng nghystadleuaeth y Goron yn Y Barri ym 1920 'roedd y testun, 'Trannoeth y Drin', yn gwahodd ymdrinaeth â'r Rhyfel a'i effaith, a chyfeiriodd yr enillydd James Evans at y meirw aflonydd. Ond erbyn diwedd y gerdd 'roedd y bardd yn cyfleu optimistiaeth. Ond heddwvh anniddig a gafwyd wedi'r drin. Hyd yn oed ym 1919, 'roedd cytundeb heddwch Versailles a'i gosb drom ar Yr Almaen yn paratoi'r ffordd ar gyfer Rhyfel arall. 'Roedd Rudderford wedi llwyddo i hollti'r atom, Mussolini wedi sefydlu'r Blaid Ffasgaidd yn Yr Eidal a gwrth-Semitiaeth yn dechrau lledaenu yn Yr Almaen. Erbyn Chwefror 1920 'roedd Adolf Hitler ac eraill wedi sefydlu plaid newydd gyda baner newydd, y swastika. Hon oedd y Blaid Natsïaidd. Yng Nghymru daeth Ymreolaeth yn bwnc llosg eto gyda phobl fel E.T.John ac W. Llywelyn Williams, yr Aelod Seneddol dros fwrdeistref Caerfyrddin a Chadeirydd yr Eisteddfod, yn hybu'r ymgyrch yn ei blaen. 'Roedd ymdeimlad fod angen i Gymru ddechrau o'r dechrau, a rhoi trefn ar ei thy. Os oedd Cymru i oroesi mewn byd mor beryglus a mympwyol, byddai'n rhaid iddi dorri'n rhydd oddi wrth ymerodraeth a phwerau mawrion. 'Roedd datgysylltu'r Eglwys yn un cam ymlaen i'r cyfeiriad hwnnw. ymlaen... |