BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Yr ennillwyrLlwyddiant Cenedlaethol
Tachwedd 2003
Llongyfarchiadau mawr i Non Jones Dolebolion, ynghyd â Dilwyn Williams o Dregaron ar eu llwyddiant diweddar yn ennill gwobr hael o £10,000.00 ar y rhaglen "The Biz" ar deledu BBC Cymru.

Mae'r ddau, ynghyd a mab Non, Dafydd, wedi sefydlu y 'Mid Wales Activity Centre' ar fferm Dolebolion.

Roedd pump o wahanol fentrau wedi dod i'r brig, gyda'r rownd derfynol ar Nos Lun Hydref 13eg yn fyw ar y teledu. Wedi treulio dros flwyddyn yn sefydlu'r fenter, roedd yn rhaid i Dilwyn a Non argyhoeddi'r cyhoedd paham y dylent ennill y wobr enfawr, a hynny o flaen cynulleidfa fyw yn y stiwdio, gyda rhai o bobl mwya blaenllaw Cymru ym myd busnes yn bresennol.

Ar ddiwedd y noson, cafwyd mae nhw oedd wedi ennill y mwyaf o bleidleisiau, a chyflwynwyd y wobr o ddeng mil o bunnau a thlws arbennig iddynt gan Colin Jackson.

Mae'r trac arbennig sydd wedi ei greu o amgylch fferm Dolebolion a Phenybannau yn werth ei weld, ac yn profi i fod yn boblogaidd iawn ar gyfer gwahanol gystadlaethau a ralïau ceir a beiciau. Pob dymuniad da iddynt eto gyda'r fenter gyffrous yn y dyfodol.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy