Dydd Sadwrn, Medi 19eg cynhaliwyd Cymanfa Ganu i ddathlu canrif a hanner o addoliad yn Ysgoldy Llanio. Gwir yw dweud y gellir olrhain yr achos yn Llanio yn ô1 i 1796 pan wnaed cais gan Jac Coch fel y'i gelwid, gwas yn Llanio Fawr, i gael benthyg ysgubor Llanio Fawr i gynnal yr Ysgol Sul. Yn y Ilyfryn canmlwyddiant a gyhoeddwyd yn 1958 cyfeirir at yr Ysgol Sul gylchynnol ac enwir tai Cefen Llanio, Penbrynrhug aTynrhos a Hendrefawr fel Ileoliadau i'r Ysgol Sul gylchynnol. Disgrifir y gwaith o adeiladu'r Ysgoldy gan ddefnyddio 40 Ilwyth o gerrig wedi eu cyfrannu gan deuluoedd Cefn Llanio a Llanio Isaf a nawdd gan blasau'r Garth, Deri Ormod a Castle Hill, Llanilar. Diolch i gasgliad o £43 / 17 / 6 agorwyd yr adeilad ym 1859.
 |