Yn y llun gwelid cerdyn dathlu canrif a hanner oYsgol Sul yn Ysgoldy Llanio 2009. Argraffiad yw'r llun o waith celf gwreiddiol gan Mr Huw Williams, Pennaeth Celf, Ysgol Uwchradd Tregaron. Comisiynwyd y darn gan Eriwen James, Tŷ Mawr, Llanio a chyfrannwyd yr arian am y gwreiddiol i Plant Dros Blant, elusen gan blant Cymru dros blant y byd. Mae Mr Huw Williams yn seiclo'r Her Geltaidd ar draws Cymru a'r Iwerddon yn flynyddol bellach a chyfrannwyd £1,000 o bunnoedd ganddo at elusen Plant Dros Blant. Derbyniwyd y siec gan Mr lestyn Thomas, Cydlynydd Plant Dros Blant mewn gwasanaeth yn Ysgol Uwchradd Tregaron ym mis Chwefror. Ychwanegwyd cyfraniad o £350 at y cyfanswm gan ddisgyblion yr ysgol trwy weithgaredd rhedeg a cherdded "Punt Dros Blant" : Gweithgaredd yw hon a wnaeth gychwyn yn Nhregaron ond sydd bellach yn weithgaredd cenedlaethol. Bydd 50 ceiniog o bob punt a godir yn yr ymgych "Punt Dros Blant"yn mynd tuag at offer chwaraeon yn yr ysgol a'r gweddill yn mynd i gynnig help ymarferol mewn gwledydd datblygol sydd wedi dioddef trychineb.
 |