Daeth tua dau gant o bobl ynghyd i Neuadd Ysgol Gynradd Ffynnonbedr, Llanbedr Pont Steffan ar gyfer noson lansio cyfrol "Bryncerdin ac Emynau Eraill"gan Gerald Morgan,Tregaron. Rhywbeth anarferol iawn y dyddiau yma yw cyhoeddi cyfrol o emynau a thonau. Ar ddechrau'r noson rhoddodd Gareth Jones, henuriad Eglwys Efengylaidd Llanbed a chyn Gvfarwvddwr Addvsa Cerediciion a golygvdd y gyfrol air o gyflwyniad a chyfeiriodd at y ffaith bod emynau Gerald Morgan yn yr un arddull ramantaidd ag emynau William Williams. Cafodd y gynulleidfa ymuno i gyd ganu emyn ar ddechrau'r noson a diweddwyd wrth gyd ganu emyn addas lawn: "Diolch i Ti yr Hollalluog Dduw Am yr Efengyl Sanctaidd Haleliwia Amen":
 |