BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Barcud
Parti Unsain Ysgol Pontrhydfendigaid a ddaeth yn gyntafEisteddfodau Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid 2003
Mehefin 2003
Cynhaliwyd gwyl lwyddiannus iawn dros benwythnos Gwyl Calan Mai, gyda chystadleuwyr niferus o bob cwr o Gymru, a rhai o dros y ffin hefyd.

Roedd y cystadlu ar y dydd Llun yn eithriadol, gyda chymaint a 23 o gystadleuwyr ar yr Unawd allan o Sioe Gerdd, 21 ar yr Unawd Gymraeg ac 20 ar yr Het Unawd.

Cystadleuaeth boblogaidd y prynhawn dydd Llun oedd yr Unawd Emyn i rai dros 60 oed, gyda 15 o gystadleuwyr ar y llwyfan.

Roedd yn hyfryd cael cwmni disgyblion ac athrawon yr ysgolion cynradd ar y nos Wener, gyda chynrychiolaeth dda o ysgolion y cylch yn cystadlu.

Llywydd Anrhydeddus yr Wyl eleni oedd Mrs Mair Hopkins, Dôl Arthur, Pontrhydygroes, un o ffyddloniaid yr eisteddfodau'n y Bont ers y cychwyn, ac fe gafwyd ganddi anerchiad pwrpasol iawn ar y nos Sadwrn.

Enillydd y goron oedd y Prifardd John Griffith Jones o Abergele, a chipiwyd y gadair gan Arwel Emlyn Jones o Ruthin, gyda thim Y Llew Gwyn Talybont yn ennill tarian Talwrn y Beirdd.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy