Heb yn wybod i ni bron mae enwau lleoedd yn berthnasol i ni i gyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Maent yn effeithio ar fyd busnes, ar eiddo, ar gynllunio, ar yr amgylchedd, ar waith yr heddlu a'r gwasanaethau brys, ar dwristiaeth, ar delegyfathrebu, ar y cyfrifiad - ac ar wleidyddiaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
Trosglwyddwyd y swyddogaeth o gynghori ar enwau lleoedd safonol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2001 pan sefydlwyd y Tîm Safoni Enwau Lleoedd. Mae'r Tîm yn cynnig cyngor i unigolion a sefydliadau o bob math ym mhob cwr o'r wlad. Nid yw'r Bwrdd yn gallu deddfu ar ffurfiau enwau lleoedd, dim ond argymell enwau safonol.
Cyfuniad o ddefnyddwyr ac o arbenigwyr ar enwau lleoedd yw aelodaeth y Tîm, gyda'r defnyddwyr yn cynnwys cynrychiolaeth o'r Arolwg Ordnans, yr Awdurdodau Lleol a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Ond pam bod angen ffurf safonol ar enw lle?
A minnau'n ieithydd, rwy'n gyfarwydd â chofnodi newid ieithyddol ac astudio gwahanol weddau ar iaith. Mae'n bwysig bod yna wedd ar iaith sy'n safonol y medrwn ni ei harddel hi'n gyhoeddus ac yn genedlaethol - a bod yn falch o allu gwneud hynny.
Mae'n dilyn bod yr union beth yn wir am enwau lleoedd: mae ffurfiau safonol ar enwau lleoedd ac mae yna ffurfiau eraill. Ac mae arddangos enwau lleoedd ar arwydd neu ar fap neu mewn ysgrif hefyd yn weithred gyhoeddus, gweithred gyhoeddus sy'n hawlio ffurf safonol genedlaethol ar yr enw.
Y tîm safoni ac arwyddion ffyrdd
Pan fo bwriad i godi arwydd ffordd ac arno enw lle, fe ddylai'r enw hwnnw, dan y drefn sydd wedi'i sefydlu, gael ei anfon i'r Cynulliad i'w gymeradwyo, waeth pwy sy'n ei godi. Wedyn fe ddaw gerbron y Tîm Safoni Enwau Lleoedd a bydd y Tîm yn cynnig cyngor yn seiliedig ar y canllawiau y mae'r Tîm ei hun wedi'u datblygu ar gyfer safoni enwau lleoedd.
Ond yn anffodus mae arfer y gwahanol awdurdodau a'r gwahanol asiantaethau yn amrywio'n fawr ac y maent yn anghyson ac yn fympwyol yn hyn o beth. O ganlyniad mae'r enwau lleoedd Cymraeg sy'n ymddangos ar arwyddion ffyrdd yn gallu deillio o amryw ffynonellau - rhai o'r ffynonellau hynny'n ffynonellau cymeradwy ac eraill yn ffynonellau amheus ar y naw.
Gall diffyg enw safonol arwain at ddryswch; ac amryw ffurfiau ar yr un enw yn ymddangos yn yr un ardal fel yn achos Pencoed a Pen-coed, Tresaith a Tre-saith, Talybont, Tal y bont, Tal-y-bont. Pa ffurf sy'n safonol? Rhoi cyngor ar yr union bwnc hwn ac ar bynciau tipyn mwy dyrys hefyd, yw rhan o gyfrifoldeb y Tîm Safoni Enwau Lleoedd.
Mae i hyn oblygiadau ehangach yn ogystal, o ran yr Arolwg Ordnans er enghraifft. Yr enwau ar fap, yr enwau ar arwyddion ffyrdd, dyma'r gyfeiriadaeth a'r wybodaeth fwyaf hanfodol i'r defnyddiwr: dyna sy'n dangos pa ardal yn hollol a ddynodir ar y map neu ar yr arwydd. Ac enwau lleoedd yw'r unig elfen ar fap ac ar arwydd ffordd nad oes modd ei dynodi â symbol. Ond os nad oes ffurfiau safonol gennym, - bydd annibendod, ffurfiau hollol fympwyol a rwtsh pur yn dilyn, fel y ceisiaf ddangos yn y man.
Sialensau eraill sy'n wynebu'r tim
Oherwydd pwysigrwydd enwau lleoedd mae'n haerllugrwydd peryglus pan fo unigolion o'i pen a'u pastwn eu hunain yn mynd ati mewn cyhoeddiadau sy'n cael eu dosbarthu'n genedlaethol i newid enw lle. Wyddoch chi lle mae 'Angel Mountain'? Fe wyddoch chi lle mae Carn Ingli. Wyddoch chi lle mae 'The Holy Mountain'? Ysgyryd Fawr yw'r enw safonol a'r unig ffurf a arddelir ar fap yr Arolwg Ordnans. Dyna ddwy o enghreifftiau yn unig.
Ac ystyrier enwau tai a ffermydd sy'n disgrifio'r tirlun lleol a gafodd yr un driniaeth ddienaid: newidiwyd Cefn Bryn ym mhlwyf Pencarreg yn Sir Gaerfyrddin yn Robin's Roost a fferm Bwlch Cefn Serth ger Pumsaint yn Emerald Valley.
Pwy sydd wedi cynnig y ffurfiau hyn? Pwy sydd wedi'u cyhoeddi? Pwy sydd wedi'u mabwysiadu? Y talentog o anghyfrifol. Y talentog o haerllug. Y talentog o anwybodus. Dim ond y talentog o dwp ac ansensitif a allai fynd ati yn y fath fodd. Ac mae'n dalent a fydd, yn anffodus, yn cynyddu oni bai ein bod ni fel Tîm Safoni Enwau Lleoedd yn gallu cydweithio â'r awdurdodau lleol i oresgyn ffurfiau fel hyn.
Rhan o'n cenhadaeth ni yw ceisio arbed y fath gamwri; sicrhau nad yw'r fath ffurfiau anffodus yn cael rhwydd hynt i'n cynrychioli ni'n genedlaethol ac yn gyhoeddus - nac yn lleol ychwaith. Ac mae gennym ni adnoddau ardderchog yn gefn inni: Archif enwau lleoedd yr Athro Melville Richards, Canolfan Enwau Lleoedd Prifysgol Cymru Bangor a holl adnoddau Geiriadur Prifysgol Cymru.
Gwaith diweddaraf y bwrdd
Y gwaith diweddaraf y mae'r Tîm Safoni wedi ymgymryd ag ef yw paratoi canllawiau ar sut i ddynodi enwau tramor. Ymgymerwyd â'r gwaith hwn yn wreiddiol ar gais Cyfieithwyr y Cynulliad. Ond mae'r gwaith wedi ymestyn i gynnwys enwau ieithoedd a phobloedd ac ansoddeiriau tarddiadol - yn ogystal â'r brîff gwreiddiol ar enwau lleoedd y tu allan i Gymru.