BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Wales whatsinanameBBC Wales - Features
BBC Cymru Wales

BBC Homepage
Cymru'r Byd

› Beth sy' mewn enw?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cysylltiadau defnyddiol

Dyma restr o wefannau a sefydliadau defnyddiol os hoffech chi ddarganfod mwy am enwau lleoedd.


Cronfa ddata enwau lleoedd Archif Melville Richards
Cronfa ddata o ffurfiau hanesyddol 330,000 o enwau lleoedd Cymru a gasglwyd gan yr Athro Melville Richards (1910-1973)
Enwau Cymru database
Adnodd hwylus lle y gallwch wirio a oes enw Cymraeg yn bodoli ar gyfer enw lle Saesneg, neu enw Saesneg yn bodoli ar gyfer enw lle Cymraeg.
Tarddiad Cymreig enwau lleoedd Prydain - Ordnance Survey
Gwefan Saesneg sy'n rhoi cyflwyniad i enwau lleoedd a rhestr gryno o elfennau cyffredin a geir mewn enwau lleoedd. Mae hefyd wybodaeth am ieithoedd Gaeleg, Gaeleg yr Alban a dylanwad y Llychlynwyr ar enwau lleoedd.
Canolfan Bedwyr
Gwybodaeth am ganolfan iaith unigryw sy'n cynnig cefnogaeth a gwasanaeth datblygu'r Gymraeg, gan gynnwys enwau lleoedd.
Bwrdd yr Iaith - Gwasanaeth Ymgynghorol ar Enwau lleoedd
Gwybodaeth am y bwrdd ymgynghorol sy'n cynnig cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru i unigolion a sefydliadau.
Some place name etymologies
Deric John yn ysgrifennu am darddiad rhai o enwau lleoedd de Cymru.
A key to English place names
Cronfa ddata sy'n cael ei chynnal gan athrofa astudiaethau enwau ym Mhrifysgol Nottingham sy'n cynnig dehongliadau o ddinasoedd, trefi a phentrefi Lloegr.
Llyfrau

Ar Draws Gwlad
Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen (Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfryn difyr yn llawn erthyglau a gyhoeddwyd yn gyntaf yn y Gymraeg yng ngholofn 'Y Ditectif Geiriau' yn y Western Mail.
Enwau
Bedwyr Lewis Jones (Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfryn yn sôn am brif enwau siroedd a threfi Cymru.
Enwau Tir a Gwlad

Melville Richards (Gwasg Gwynedd)
Trafodaeth am rai o'r dylanwadau a'r elfennau sydd i'w canfod yn enwau lleoedd Cymru.
Rhestr o Enwau Lleoedd - A Gazeteer or Welsh Place-Names
Elwyn Davies (University of Wales Press)

Y Llyfr Enwau - A Check-List of Welsh Place-names
D. Geraint Lewis (Gomer)
Y gyntaf o ddwy gyfrol am enwau priod. Mae'r llyfr hwn yn ymdrin ag enwau lleoedd a bydd yr ail yn trafod enwau personol Cymru. Nid oes cysylltiad rhwng y llyfr hwn â phrosiect Beth sy' mewn enw.
Darllenwch adolygiad o'r llyfr
The Dictionary Of Place-Names Of Wales
Hywel Wyn Owen a Richard Morgan (Gwasg Gomer)
Geiriadur yn cynnwys dros 2,000 o enwau lleoedd yng Nghymru a gyhoeddwyd ar ddiwedd saith mlynedd o waith ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r gyfrol yn egluro gwraidd 1,000 o enwau eraill, gan gynnwys afonydd a mynyddoedd.
English language books

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Eich sylwadau

"Wrth Aberhonddu gwelais le o'r enw 'Lloegr'. Mae'r Saeson ym mhob man!"

Andy o Gwmbrân

A wyddech chi?

Mae 608 o enwau lleoedd yn dechrau gyda Llan.

Beth yw gwir ystyr llan?

Eich straeon


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy