Teleri, Frongoch
Beth yw ystur yr enw "Livin" sydd ar fferm yn Frongoch ger y Bala. Wedi bod yn edrych ond dal dim clem!!!
Huw Garan o'r Rhandir-mwyn
Pentre' Trap, Sir Gâr. Mae'n amlwg taw ar ôl Soligny-la-Trappe yn Ffrainc, sef un o fam-abatai'r Sistersiaid yng Nghymru, ond sut cafodd yr enw - pwy roddodd yr enw arno? Mynaich o Ystrad Fflur neu'r Hendy-gwyn, neu gan fynaich Talyllychau? Os Talyllychau, pam fyddai mynaich Premsontratensaidd yn enwi lleoedd ar ôl tai'r Sistersiaid?
Andy Warburton o Gwmbrân
Wrth spio ar fap OS o'r ardal i'r gogledd o Aberhonddu gwelais i le o'r enw 'Lloegr' (dim yn bell o Gapel Isaf). Fferm mae'n debyg o weld maint y lle. Tybed beth oedd tarddiad yr enw? Mae'r Saeson ym mhob man ond ydyn nhw :-)
Emyr yn Greenwich
Pentrecagal ger Castell Newydd Emlyn - hoff bentre Jeifin Jenkins
Magwen, Caerydd
Carreg Sawdde - Dyma enw fy nghartref yn Llanwnda ger Caernarfon. Tybed a oes gan unrhyw un syniad o'i ystyr? Diolch
Tim o'r Barri
Rhaid bod trigolion Login ar ben y ffordd o ran y dechnoleg ddiweddaraf.
Alwyn o Ddolgellau
Mae 'dinas' neu din' yn golygu rhyw fath o amddiffynfa neu gaer sydd wedi ei gau i mewn. Roedd Dinas Mawddwy'n gadarnle filwrol felly byddai hynnyn'n gwneud synnwyr mae'n debyg. Mae ychydig o wybodaeth am Ysbyty Ifan yn erthygl Myrddin ap Dafydd, Tafarnau ac enwau lleoedd ar y wefan hon. Dod o'r Lladin hospitium mae'r gair ysbyty yma yn ôl y son.
SD, Aberaman
Does dim cystadleuaeth, dwi'n siwr - mae'n rhaid taw Cwm Selsig yw enw twpa' Cymru. Cerwch am dro ynddo, yn uchelfannau'r Rhondda.
Tom Trev o Llannefydd
Dinas Mawddwy, lle does dim dinas, ac Ysbyty Ifan, lle does dim ysbyty.
Siwan, Caerdydd
Tredomen sy'n gwneud i mi wenu bob tro! Mae'n swnio'n lle 'persawrus' iawn!! Ac mae Ffrwdgrech ger Aberhonddu yn un arall rhyfedd.
Mel Richardson, Brychdwn, Y Bont-Faen
Darllenais i'r hanes unwaith am darddiad 'Penmarc' sef pen y march ond yn anffodus wi wedi anghofio llawer ohoni. Yn ôl yr hanes oedd frwydrfilltiroedd i ffwrdd ond yn ystod y frwydr cafodd pen y march ie dorri i ffwrdd o'i gorff yn gyfan gwbl a glaniodd y pen ym Mhenmarc. Carwn i wybod mwy.
Terry Barry o Aberystwyth
Mae ffermdy/fferm o'r enw 'Wallog' ar bwys Sarn Gynfelyn, nepell o Borth (Ceredigion). Ysgwn i beth yw ystyr 'Wallog' gan i mi fethu dod o hyd i wraidd y gair). Ac hefyd dwi wedi ymweld a Chastell y Bere sawl gwaith heb gael gwybod yn iawn beth yw ystyr 'bere' (rhyw gysylltiad a'r gair bera = tas (stack)? Mae rhywun wedi awgrymu mai hen enw ar y barcud (yr aderyn) yw 'bere'!?
Elsie Prydderch
Beth yw ystyr Vivod sydd rhwng Corwen a Llangollen tybed?
John
Mae Livin yn Fron Goch ger y Bala yn un diddorol.
Gareth Oliver o Fangor
Tybed a fuasech yn gallu datrys ystyr enw Tafarn y Gilar. Mae'r dafarn nepell o'r A5 rhwng Betw y Coed a Phentrefoelas. Gown fod ystad amaethyddol o'r un enw yn y cylch flynyddoedd yn ôl. Tybed os mai cyfenw teuluol yw Giler?
Heti Williams o Langadog
Cefais fy magu ar fferm Castell Nadolig yn Sir Aberteifi.
Di-enw o Ynys Môn
O ble daeth yr enw Star, pentref bach ger Gaerwen ar Ynys Mon?
Deio Williams o Harlech
Mae ty o'r enw Eisingrig ar bwys Talsarnau
Ceri Llion o Aberporth
O ble daeth yr enw Cardigan?
Martin o Ben-y-Garn
Pwy oedd y Steffan yn ‘Llanbedr Pont Steffan’? Dw i wedi darllen bod Steffan, un o ddilynwyr Gilbert de Clare, wedi codi’r castell sydd wrth ymyl Coleg Dewi Sant yn y dre ’nôl ym 1110. Tybed ai hwn yw’r un dyn a wnaeth codi’r bont gyntaf dros yr afon hefyd?
Val o Benllech
Yr enw fydd yn codi gwen pob amser yw 'Dob', yn Tregarth.
Emyr Puw o Lanuwchllyn
Maes Glasau - yng Nghwm Cerist (Dinas Mawddwy - lle cyfansoddodd Huw Jones yr emyn enwog 'O tyn y gorchudd'. Mae'r Athro Bedwyr Lewis Jones yn dweud nad oes ganddo ddim i'w wneud â 'clasau' ac mai mewn cyswllt â'r gair 'glas' y mae ei egluro. Yn ystod Medi gwael ers talwn dywedir fod y cwm hwn wedi bwydo poblogaeth Mawddwy tra bod y cynhaeaf wedi methu ymhobman arall sy hwyrach yn cadarndau dehongliad Bedwyr. Er hynny yn lleol cysylltir y lle â 'clas' ac mae Cwm yr Eglwys gerllaw ac Abaty Cymer ddim ond dros y mynydd.
Sion o Moelfre
Rhostrehwfa: yr enw sy'n gwenud ichi feddwl am lanhau'r ty!
Rhys o Fangor
Mae Abercwmboi'n gwneud i fi feddwl am dreialon cwn defaid, neu 'Aber-come-by' fydde hynny?!
Elin o Lanelwedd
Beth am Cwmbach Llechryd neu Cwmbach Rhechlyd, fel mae Dad yn ei alw o!
Lisa, Caerdydd
Tybed beth yw tarddiad Mamhilad yn Sir Fynwy?