BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Wales whatsinanameBBC Wales - Features
BBC Cymru Wales

BBC Homepage
Cymru'r Byd

› Beth sy' mewn enw?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caeau

Casglu enwau lleoedd

Iwan Wmffre yn sôn am ei bryder y byddwn yn anghofio hen enwau os na awn ati i'w cofnodi.

Mae enwau lleoedd yn ennyn cymaint o ddiddordeb ymysg pobl ac mae cymaint o ymchwil wedi ei wneud ers dros 100 mlynedd fel ei bod hi'n ymddangos nad oes llawer i'w wneud ond mynd at y llyfrgell leol er mwyn dod o hyd i'r enwau.

Ond mae credu bod y casglu wedi ei wneud a hynny'n derfynol yn gamarweiniol iawn, yn enwedig parthed enwau caeau a mân arweddion y tirwedd fel creigiau, nentydd, heolydd. Yn wir, wrth amcanu'n fras, gellir haeru'n weddol gadarn na chasglwyd eto ragor na hanner yr enwau caeau neu'r mân enwau eraill yng Nghymru.

Onid oes digon o enghreifftiau o enwau lleoedd gyda ni ar glawr? Wel oes. Os felly, a oes wir ots nad yw hanner y mân enwau gyda ni ar glawr? Wel oes yn fy marn i, a dyma paham.

Un o rinweddau enwau lleoedd yw eu bod yn perthyn bob un i ddarn unigryw o wyneb daear, ac yn ein hachos neilltuol ni i ddarn unigryw o dir Cymru.

Edryched rhywun ar lun o Ddyffryn Aeron yng nghyffiniau Felin-fach gyda'i rwydwaith o gaeau clytiog. Mae'n un o olygfeydd godidog, traddodiadol ein gwlad, mewn ardal sy'n Gymreig ac yn dal yn Gymraeg. Ond, wyddech chi beth? Yn llyfrgelloedd ein gwlad ni allwch ddod o hyd i namyn un o'r enwau sy'n perthyn i'r myrdd o gaeau a welwch yn yr olygfa hon.

Ond os nad yw'r enwau hyn ar gael ar glawr, mae'r mwyafrif ohonynt yn dal ar gael ar lafar ymysg y bobl sy'n ffermio'r tir os ydyn nhw'n bobl leol. A da o beth fyddai mynd ati i'w casglu nhw.

Does dim eisiau eich darbwyllo bod newid mawr ar gerdded yn y gymdeithas yng nghefn-gwlad Cymru, bod lleihau ar y nifer sy'n ffermio ar y ffermydd eu hunain a bod dynion dŵad yn cymryd lle'r brodorion lleol yma ac acw.

Does dim eisiau eich darbwyllo chwaith bod ffyrdd newydd a modern o amaethu, o drafaelu ac o gymdeithasu yn torri'r berthynas hawddgar a feithrinwyd rhwng y gymdeithas a'r tir dros y canrifoedd. Yng ngoleuni hyn i gyd, a oes eisiau eich darbwyllo bod ymwybyddiaeth lafar yr enwau lleol yn gwywo mewn modd trychinebus?

Mae parhad hanner ein henwau caeau presennol, sef hanner arwynebedd Cymru, yn y fantol, gyda rhagolygon na fydd y mwyafrif yn dal i fodoli mewn cenhedlaeth. O ran yr enwau caeau sydd ddim ar glawr, mae'r unfed awr ar ddeg yn seinio.

Os ydym o ddifrif ynglŷn â'n hetifeddiaeth a'i chadw i'r oesoedd a ddêl, dyma orchwyl na ddylid ei hesgeuluso. Gall unigolion wneud llawer er mwyn cadw cyfoeth yr enwau lleoedd yn eu hardaloedd hwy, yma a thraw. Ond y cwestiwn yw, a ydyn nhw'n ymwybodol o'r hyn sydd eisiau ei wneud a sut i fynd ati os y penderfynant weithredu?

Sut i fynd ati i geisio cofnodi enwau caeau

Y peth cynta y gellid ei wneud yw mynd at yr archif sirol agosaf neu at y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a gofyn am gael gwneud llungopi o fap degwm yr ardal sy'n dyddio o ganol y 19eg ganrif, neu o fap chwe modfedd diwedd y 19eg ganrif, sy'n fanwl iawn. Ni fydd enwau ar y caeau yn hanner yr achosion felly'r dasg fydd defnyddio'r llungopi wrth holi pobl lleol, yn enwedig y rhai sydd yn ffermio neu sydd wedi gwneud hynny'n y gorffennol.

Dyma brosiect a fyddai'n weddus iawn i ysgol, cymdeithas hanes lleol, clwb ffermwyr ifanc, Merched y Wawr, WI, yr Eisteddfod, Papurau Bro, cymdeithas eglwysig neu gymdeithas capel. Byddai darganfod mân enwau'r cylch yn cyfrannu at ymwybyddiaeth o hanes, daearyddiaeth a diwylliant ac, yn sylfaenol nid yn unig o ddiddordeb lleol, ond cenedlaethol.

Wrth gwrs, yn y gorffennol, gweithredwyd y fath brosiectau gan unigolion a chymdeithasau (fel y rhai a enwid uchod), ond yn aml anghofiwyd ac esgeuluswyd y cynnyrch ar ôl sbel mewn lofft cyn, ymhen cenhedlaeth, ei roi ar y tân gyda phapurach eraill ar ôl marw'r perchen.

Yn ddelfrydol, braf fyddai cael swyddog neu ddau yn gweithio'n llawn amser fel cydlynyddion i sbarduno'r fath fentrau ar enwau lleol. Gallent gynnig cymorth a chyngor i brosiectau lleol gan wneud yn siŵr bod y prosiectau a chynlluniau o'r fath a weithredwyd yn y gorffennol yn cael eu diogelu i'r dyfodol.

Eich sylwadau

Alwyn o Ddolgellau
Mi glywais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ddyfarnu grant o £50,000 i ddiogelu enwau ffermydd a chaeau Ardudwy. Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth y bobol leol a'r rhai sy'n newydd i'r ardal gobeithio. Mae'n wych bod cymdeithasau a grwpiau bychain yn cael cefnogaeth i gasglu enwau ac atgofion sydd mewn perygl o gael eu colli. Credaf mai'r bwriad yw rhoi canlyniadau'r ymchwil ar wefan.

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud yn siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi.

Eich sylwadau

"Wrth Aberhonddu gwelais le o'r enw 'Lloegr'. Mae'r Saeson ym mhob man!"

Andy o Gwmbrân

A wyddech chi?

Mae 608 o enwau lleoedd yn dechrau gyda Llan.

Beth yw gwir ystyr llan?

Eich straeon


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy