Enwau afonydd ac enwau lleoedd
top
Mae llawer o drefi a phentrefi'n cymryd enw'r afon. Dyma erthygl am enwau afonydd mewn enwau lleoedd.
Afonydd a'r Rhufeiniaid
Enwau ein hafonydd yw rhai o'r enwau hynaf sydd mewn defnydd heddiw. Roedd hi'n arfer gan y Rhufeiniaid i neilltuo enwau lleol, enwau afonydd ran amlaf, i'w caerau ac oherwydd hynny rydym yn gwybod beth oedd enwau rhai afonydd hyd yn oed cyn dyfodiad y Rhufeiniaid.
Segontium oedd y gaer ar ein afon Saint neu Seiont ni heddiw yng Nghaernarfon er enghraifft. Roedd Canovium ar afon Conwy, Deva ar afon Dyfrdwy neu'r Dee a Tamion oedd yr enw a roddwyd gan y Rhufeiniaid i'w caer yng Nghaerdydd ar yr afon Taf.
Mae afon Taf yn perthyn i grŵp o enwau afonydd Celtaidd ac Ewropeaidd sy'n golygu rhywbeth tebyg i 'llif' er y credid unwaith mai 'tywyll' oedd ei ystyr. Yn y grŵp yna mae afonydd Tawe, Teifi, Team, Tame a Thames. Mae'n ddiddorol nodi bod Caerdydd, Abertawe a Llundain ar afonydd gyda'r un tarddiad ieithyddol.
Enwau'n cynnwys yr elfen 'aber'
Fel arfer mae elfen o flaen enw'r afon mewn enwau lleoedd fel y gwelwn yn Castell-nedd a Llanelwy. Cysylltwn enwau'n cynnwys nant, blaen, glan, rhyd, cymer a ffynnon ag afonydd yn aml hefyd. Yr elfen fwyaf cyffredin yn y cyd-destun yma yw aber.
Aber yw'r gair am fan lle mae afon yn llifo i'r môr neu lle mae afon lai'n llifo i afon fwy. Mae afon Daron yn llifo i'r môr yn Aberdaron, er enghraifft ac mae Aberhonddu disgrifio'r fan lle mae afon Honddu'n ymuno ag afon Wysg.
Mi allai rhywun feddwl yn hawdd felly bod tref Aberystwyth ar lannau afon Ystwyth, ond camgymeriad fyddai hynny. Erbyn hyn byddai Aber Rheidol yn enw cywirach ar y dref mewn gwirionedd.
Adeiladwyd castell yn 1110 ryw filltir a hanner i'r de o'r castell presennol a hynny ar lan afon Ystwyth ac felly Aber Ystwyth oedd yr enw naturiol i'w roi ar y castell. Yn 1211, pan godwyd castell arall ar lan afon Rheidol, a ddaeth yn ganolbwynt i dref fodern Aberystwyth, cadwyd yr hen enw.
Camarweiniol hefyd efallai yw'r enwau Berffro a Bermo, sydd yn ffurfiau hollol gymeradwy yn Gymraeg erbyn hyn ar Aberffraw ac Abermawdd. Nid yw'r elfen aber nag enwau'r afonydd yn amlwg yn yr enwau a ddefnyddiwn heddiw.
Fel arfer enw afon sy'n dilyn yr elfen aber ond nid yw hyn yn wir bob tro. Weithiau ceir nodwedd tirweddol yn hytrach nag enw afon fel yn Aberglaslyn ac Abergwyngregyn.
Elfennau camarweiniol
Roedd yr elfen wrywaidd, nant, yn ei hen ystyr, yn golygu 'dyffryn'. Dyma a gawn yn Dyfnant (neu Dunvant) ger Abertawe. Ystyr mwy cyfarwydd y gair benywaidd nant i ni heddiw yw 'afon fechan'. Rhaid felly bod yn ofalus wrth dybio bod dŵr yn llifo mewn lle sy'n cynnwys yr elfen hon.
Hanes tebyg sydd i'r elfen blaen sy'n cyfeirio at darddiad afon. Gan bod afonydd yn tarddu fel rheol mewn mynydd-dir, defnyddir blaen neu blaenau am ucheldir hefyd. Ni fyddai'n syndod pe na bai llawer yn sylwi ar yr elfen glan mewn enwau lleoedd. Yn achos Llancaeach a Llanbradach er enghraifft, glan yw'r elfen gyntaf er iddi gael ei disodli gan llan. Enwau nentydd yw Caeach a Bradach.
Enwau duwiau a duwiesau mewn enwau afonydd
Mae enwau duwiau a duwiesau'n amlwg iawn mewn afonydd. Enw duwies brwydr sydd i'w gweld yn afon Aeron - aer (battle) a'r ôl-ddodiad -on. Yr un terfyniad sydd i'w weld yn Aberdaron ond yma duwies y dderwen a welwn.
Mae'r cysylltiad dwyfol yn enw afon Dyfrdwy hefyd - dwfr neu dŵr a'r elfen dwy(w) neu duwies fel a welir yn Dwyfor, Dwyfach a'r Dee yn yr Alban. Y dduwies dan sylw yma, mae'n debyg, oedd Aerfen, duwies rhyfel. Gelwir Llyn Tegid yn Llyn Aerfen mewn llenyddiaeth canoloesol.
Tybir mai Alaunos, a ddefnyddwyd gan yr hen Geltiaid fel enw ar un o'u duwiau, yw tarddiad enw afon Alun. Credir bod Alaunos yn cyfateb i dduw Rhufeinig, Mercury. Mae'n bosib bod al- yn golygu 'llif o ddŵr'. Gwelir yr elfen hon ar ddechrau afonydd Aled ac Alwen hefyd.
Natur ddisgrifiadol enwau afonydd
Yn aml cawn syniad o natur yr afon o'i henw. Cawn argraff o pa mor wyllt yw llif afon o'r enwau Abergarw a Nantgarw ger Ffynnon Taf. Er mor gudd yw'r elfen bryw yn yr enw Bronant heddiw mae bywiogrwydd ac egni'r nant yn cael ei adlewyrchu yn yr enw gwreiddiol - Briwnant. Mae'r enw i'w weld ar dŷ yn y pentref hyd heddiw.
Mae sŵn afon yn amlwg mewn nifer o enwau afonydd hefyd. Cawn awgrym amlwg o fwrlwm a chlebran swnllyd afon Llafar er enghraifft a hefyd o'r afon Ieithon sy'n tarddu o'r gair iaith. Mewn gwrthgyferbyniad wedyn mae rhai enwau'n adlewyrchu tawelwch a llonyddwch yr afon. Cymerwn afon Llyfni, sef y gair llyfn a'r terfyniad -i. Mae Honddu hefyd yn tarddu o'r ansoddair hawdd yn yr ystyr pleserus neu hamddenol.
Mae'n siwr mai -wy yw'r terfyniad mwyaf cyffredin mewn enwau afonydd ac mae ei ystyr yn cyfleu ystum droellog afon.
Anifieiliaid mewn enwau afonydd
Nid yw'n anghyffredin dod o hyd i enw creaduriaid mewn enw afon sy'n dangos pa mor gysegredig yr ystyrid anifeiliaid. Gwelir yr afon yn debyg i deulu'r mochyn yn aml, yn rhychu ei llwybr drwy bridd y ddaear. Cymerwn Abersoch fel enghraifft. Daw'r elfen soch sydd â chysylltiad â'r gair 'hwch' o'r Gweddeleg socc. Dyma yw tarddiad enw afon Suck yn Connacht.
Mae afon Twrch yn Nghwm Twrch yn ardal Ystalyfera ac yn ardal Llanuwchllyn a chawn hefyd afon Hwch ger Llanberis. Mae banw, gair am fochyn ifanc, yn amlwg yn enwau afon Banw ym Maldwyn ac afon Aman ac Ogwen (o Amanw).
Arfau mewn enwau afonydd
Yn aml fe welwn gyfeiriad at arf neu erfyn yn enw ein hafonydd sy'n cyfleu'r weithred o dorri drwy'r tir neu ddyfnder yr afon. Gall hyn hefyd awgrymu ei disgleirdeb. Ffurf dafodiaethol o gelau sy'n golygu 'picell' neu 'lafn' sydd i'w weld yn achos Abergele, er enghraifft er i rai gamddehongli hwn i fod yn ffurf o gelen yn yr ystyr 'leech'.
Yr un syniad a geir yn Aberdaugleddau. Mae dwy afon Cleddau - Cleddau Wen a Chleddau Ddu a'r ddwy afon, neu'r ddau gleddyf, yn ymuno i lifo i'r môr yno. Mae'r elfen -og a welwn yn Ogwr ac Ogwen, hefyd yn golygu rhywbeth miniog neu gyflym.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.
Mwy
- Enwau lleoedd: Beth sy' mewn enw
- Enwau lleoedd: Afonydd
- Enwau lleoedd: Creaduriaid
- Enwau lleoedd: Crefydd a chredo
- Enwau lleoedd: Diwydiant ac amaeth
- Enwau lleoedd: Enwau personol
- Enwau lleoedd: Dylanwad y Saesneg
- Enwau lleoedd: Tafarnau
- Enwau lleoedd: Tirwedd
- Enwau lleoedd: Dylanwad tramor
- Enwau lleoedd Llŷn
- Enwau lleoedd Môn
- Enwau lleoedd de orllewin
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd A-C
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd G-P
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd Rh-Y
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Geiriadur
Adnoddau

Ar-lein
Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.



