Enwau lleoedd difyr Ynys Môn
top
Dyma ambell esboniad i'r enwau llefydd difyr ar hyd a lled Ynys Môn. Ysgrifennwyd y darn hwn yn wreiddiol yn 2007 fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' BBC Cymru.
Caergybi: ers y dyddiau cynnar bu sawl enw ar Gaergybi - cyfuniad o 'Caer' a'r enw sant, 'Cybi'. Llan neu Llam y Gwyddel oedd y lle yn y cyfnodau cynharaf. Bu hefyd yn Eglwys y Beddi, Cor Cybi a Haliheved. Tua'r bedwaredd ganrif ar ddeg y gwelwyd Caergybi gyntaf ond yn yr ail ganrif ar bymtheg gwelwyd hefyd y ffurf Gorffwysfa Gybi.
Corn Hir: enw tŷ yn wreiddiol ond yn awr yn enw ar rhan o Langefni. Mae'r ystyr yn amlwg.
Glasinwen: y dŵr rhwng Môn ac Ynys Cybi. Glas yn yr ystyr o wyrdd fel ag yn glas-wellt yw hwn ac yn cyfeirio at liw y dŵr o bosibl.
Kingsland: ardal o Gaergybi y newidwyd ei henw o Penllechnest i gydfynd ag ymweliad George y pedwerydd yn 1821 ar ei ffordd i Iwerddon lle rhoddodd yr un enw i Dun Laoghaire.
Llannerch-y-medd: neu yn ôl rhai, gan gynnwys Morrisiaid Môn, Llannerch-y-meddwin! Mae'n ymddangos fod medd yn cael ei gynhyrchu yma ar un adeg pan oedd Môn yn goediog a llannerch yn nodwedd i dynnu sylw ati.
Moelfre: cyfuniad o moel a bryn. Bryn llwm.
Niwbwrch: Newborough oedd yr enw a roddwyd ar y lle gan Edward I pan symudodd drigolion Llanfaes yno. Rhosyr oedd yr enw ar yr ardal cyn hynny gyda 'myr' yn hen luosog o môr.
Porthaethwy: Yr hen goel yw i'r trigolion cyntaf gyrraedd Môn mewn dwy don. Â'r don gyntaf wedi ymsefydlu cyrhaeddodd yr ail griw o bobl ac ar ochr Afon i'r Fenai dyma nhw'n holi yn lle yn union y croesodd y criw cyntaf a derbyn yr ateb: "Dyna'r fan lle'r aethont hwy." Byth ers hynny adnabuwyd y lle fel Porth-lle'r-aethont-hwy a gywasgodd yn Porthaethwy. Wrth gwrs, celwydd noeth yw hynny, ac yn ôl rhai sy'n gwybod yn well hen enw llwythol ydi Daethwy.
Pentreberw: mae'n ymddangos fod y planhigyn berw'r dŵr yn ffynnu yn yr ardal. Enw arall ar y lle yw Holland Arms oddi wrth dŷ tafarn o'r enw hwnnw a enwyd ar ôl teulu Holland Plas Berw gerllaw.
Porth Dafarch: er nad oes eglurhad pendant i'r enw hwn mae ysgolheigion yn eithaf sicr nad cywasgiad o Porth Dau Farch ydyw fel y mynn rhai. Y ffurf ar un adeg oedd Porth Davagh ac awgrymwyd mai enw person yw'r ail elfen er nad yw Tafarch yn enw cyffredin iawn.
Porth Swtan:er bod rhai yn mynnu i'r fan hon gael ei henwi ar ôl y milwr Rhufeinig Suetonius Paulinus y dywedir iddo arwain ymosodiad yn erbyn y Derwyddon go brin fod hynny'n gywir ac nad yw swtan yn ddim amgen nag enw pysgodyn sy'n cael ei adnabod fel whiting yn Saesneg!
Rhosneigr: Yr oedd Yneigr yn un o wyrion Cunedda Wledig a dywedir iddo ymladd ochr yn ochr â Chadwallon Lawhir ym Mrwydr Cerrig y Gwyddyl yn y bumed ganrif pryd y cafodd y Gwyddelod eu hel o'r ynys.
Rhostrehwfa: yr enw sy'n gwenud ichi feddwl am lanhau'r tŷ! Cyfuniad yw o Rhos, wrth gwrs, ac enw fferm, Tre Hwfa - Hwfa yn enw ar berson.
Rhos y Gad: enw ar ddarn o dir comin ger Llanfairpwllgwyngyll ac er mor hwylus fyddai cysylltu'r lle a brwydrau oherwydd yr elfen 'cad' yn yr enw mae'n ymddangos mai Rhos y Gath oedd y ffurf wreiddiol gan gyfeirio at gathod gwyllt oedd yn gyffredin ym Môn rai canrifoedd yn ôl.
Cyfrannwyd yr erthygl hon i'r wefan yn wreiddiol yn 2007 fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw'?'
Mwy
- Enwau lleoedd: Beth sy' mewn enw
- Enwau lleoedd: Afonydd
- Enwau lleoedd: Creaduriaid
- Enwau lleoedd: Crefydd a chredo
- Enwau lleoedd: Diwydiant ac amaeth
- Enwau lleoedd: Enwau personol
- Enwau lleoedd: Dylanwad y Saesneg
- Enwau lleoedd: Tafarnau
- Enwau lleoedd: Tirwedd
- Enwau lleoedd: Dylanwad tramor
- Enwau lleoedd Llŷn
- Enwau lleoedd Môn
- Enwau lleoedd de orllewin
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd A-C
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd G-P
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd Rh-Y
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Geiriadur
Adnoddau

Ar-lein
Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.



