Ystyr enwau lleoedd y de orllewin
top
Aman: cyfuniad o'r gair 'amanaw' a 'man' gydag 'amanaw' wedi dod o'r gair 'banw' yn golygu mochyn bach. Mae'r afon yn un o nifer o afonydd yng Nghymru sydd wedi ei henwi ar ôl anifail er nad yw hynny bob amser yn amlwg o'r ffurfiau modern. Gweler hefyd, Nanhyfer.
Caerfyrddin: 'Moridunum' oedd yr enw mewn Brythoneg sef cyfuniad o 'mori' a 'dunum' - 'môr' a 'caer'. Y ffurf wreiddiol yn y Gymraeg oedd 'Myrddin' gyda'r 'din' ar y diwedd yn golygu dinas neu gaer. Ond gan i rai dybio mai'r enw person ydoedd ychwanegwyd Caer yn ddiangen at ddechrau'r enw a thrwy hynny y tyfodd y cysylltiad rhwng y dref a'r dewin Myrddin wrth i bobl dybio mai cyfuniad o 'Caer' a 'Myrddin' yw'r enw yn hytrach na chyfuniad o'r 'caer' diangen yna a'r Brythonaidd, 'mori' a 'dunum'.
Carreg Cennen: Cyfuniad o 'Carreg' ac o bosibl, 'Cynnen'.
Cefn Sidan: Cyfuniad o Cefn a Sidan gyda 'cefn' yn cyfeirio at ffurf y tirwedd: 'cefnen' neu 'ridge' yn Saesneg. Y farn boblogaidd yw mai cyfeirio at y tywod 'sidanaidd' ar y traeth mae'r sidan ond gall sidan hefyd olygu glaswellt neu dyfiant sy'n edrych fel sidan.
Cydweli: Nid 'cyd' a 'gwely' ydi'r elfennau yn y gair yma er mor ddeniadol ydi'r syniad hwnnw o gydwelya. Mae gwir ystyr yr enw yn llawer llai rhamantus. Y ffurf hynaf ydi 'Cetgueli' a datblygodd hynny 'Cadweli' ac wedyn 'Cedweli' sef tir yn perthyn Cadwal. Felly, enw ar ddarn o dir oedd o'n wreiddiol yn hytrach na thref.
Dinefwr: Y ddwy elfen ydi 'Din' sydd mor gyfarwydd mewn enwau lleoedd (dinas ac ati) ac yn golygu lle neu gaer a 'mawr'. Yma yr oedd gorsedd yr Arglwydd Rhys yn y ddeuddegfed ganrif.
Llandeilo: 'Latelian' oedd y ffurf yn y ddeuddegfed ganrif. Cyfuniad o 'Llan' ac enw'r sant 'Teilo'.
Llanelli: Eglwys Sant Elli.
Llangadog: Eglwys Sant Cadog.
Llanymddyfri: Y ffurf yn y ddeuddegfed ganrif oedd 'Llanamdewri'. Yr elfennau ydi 'Llan' wrth gwrs, 'am' yn golygu 'ger' neu'n agos i 'dyfri dŵr'. Felly, yr eglwys ger y dŵr. O bosib fod 'Dyfri' yn enw ar nant hefyd.
Llwynwhilwg: ger Llanelli. Yr ail elfen yn y gair ydi 'Chwil' a hynny yn yr ystyr o chwilen neu drychfilyn yn hytrach na meddwdod.
Nanhyfer: Y ddwy elfen yw 'Nant' a 'hyfr' yn golygu gafr. Mae nifer o afonydd yng Nghymru sydd wedi ei henwi ar ôl anifail er nad yw hynny bob amser yn amlwg o'r ffurfiau modern. Gweler hefyd, Aman.
Pont-rhyd-y-fen: Mae'r elfennau cyntaf yn gwbl amlwg gyda 'rhyd' yn lle i groesi afon. O bosib mai 'ven' yn golygu wagen yw'r elfen olaf a hynny'n disgrifio beth fyddai'n croesi'r rhyd. Cafodd y llecyn ei adnabod hefyd fel 'Tir pont rydyven' a 'Ty'r Pen Pont Rhyd y ven.'
Yr Olchfa: yr elfennau yn y gair hwn ydi 'Golchi' a 'Man' ac yn cyfeirio at y defnydd o afon i olchi defaid.
Mwy
- Enwau lleoedd: Beth sy' mewn enw
- Enwau lleoedd: Afonydd
- Enwau lleoedd: Creaduriaid
- Enwau lleoedd: Crefydd a chredo
- Enwau lleoedd: Diwydiant ac amaeth
- Enwau lleoedd: Enwau personol
- Enwau lleoedd: Dylanwad y Saesneg
- Enwau lleoedd: Tafarnau
- Enwau lleoedd: Tirwedd
- Enwau lleoedd: Dylanwad tramor
- Enwau lleoedd Llŷn
- Enwau lleoedd Môn
- Enwau lleoedd de orllewin
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd A-C
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd G-P
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd Rh-Y
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Geiriadur
Adnoddau

Ar-lein
Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.



