Crefydd a chredo mewn enwau lleoedd

top
Esglwys Sant Sannan - Llansannan

Mae hanes crefyddol Cymru wedi gadael ei ôl yn drwm ar enwau lleoedd y wlad. Ystyriwch, er enghraifft, yr elfen sydd i'w gweld yn amlach na'r un elfen arall yn enwau trefi a phentrefi Cymru - sef llan, wrth gwrs.

Enwau lleoedd yn cynnwys yr elfen 'llan'

Mewn enwau lleoedd, byddai llan yn cyfeirio yn wreiddiol at le caeedig, ac yna daeth i olygu 'eglwys', yn enwedig eglwys plwyf, yn fwy cyffredinol wedyn.

Mae rhai enghreifftiau o llan yn sefyll fel enw lle ar ei ben ei hun, ond fel arfer bydd elfennau eraill yn dilyn. Weithiau, mae'r rhain yn cyfeirio at safle'r llan (e.e. Llanaber, Llanrhaeadr, Llangoed, Llan-gors, Llanfynydd), ac yn achos Llangefni, Llanelwy a Llandaf mae'r ail elfen yn cyfeirio at afon gyfagos yn ôl ei henw (Cefni, Elwy, Taf). Weithiau, maint y llan sy'n cael sylw (e.e. Llanfor a ddaeth o Llan-fawr a Llanfechan).

Ond mae'r elfen llan yn gallu bod yn dwyllodrus. Cymerwch yr enw Llanboidy, er enghraifft. Mae'r ystyr yn amlwg, mae'n rhaid: llan yn ymyl beudy? Wel, nage. Nantbeudy oedd yr hen enw ar y lle, ac mae'r un patrwm i'w weld yn achos Llancarfan (o Nantcarfan). Yn achos Llancaeach a Llanbradach, glan yw'r elfen sydd wedi cael ei disodli gan llan. Enwau nentydd yw Caeach a Bradach.

Enwau seintiau

Y drefn arferol, fodd bynnag, ydi cyplysu llan ag enw sant. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn seintiau brodorol megis Peris (Llanberis), Tudno (Llandudno) ac Elli (Llanelli), ond mae enwau seintiau Beiblaidd fel Pedr (Llanbedr), Mair (Llanfair) a Mihangel (Llanfihangel) i'w gweld hefyd.

Ambell dro, mae cyfeirio at fwy nag un sant (Llanddeusant, Llantrisant, Llanpumsaint). Yn achos y seintiau mwyaf poblogaidd, yr oedd rhaid gwahaniaethu ymhellach rhwng gwahanol lannau gyda'r un enw - er enghraifft, mae cof am Garmon Sant yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Llanarmon-yn-Iâl a Llanarmon Mynydd Mawr.

Enwau'n cynnwys 'capel' ac 'eglwys'

Ar ôl llan, mae'n debyg mai capel ac eglwys yw'r elfennau mwyaf cyffredin sy'n cyfeirio at leoedd addoli.

Er bod yr elfen capel, erbyn hyn, yn tueddu i gael ei chysylltu ag Anghydffurfiaeth, mae llawer o'r enwau sy'n ei chynnwys yn hŷn o dipyn na hynny. Yn aml, mae'n cyfeirio at gapel anwes, sef addoldy wedi'i godi er hwylustod i bobl a oedd yn byw yn bell o eglwys y plwyf. Yr oedd Capel Curig, er enghraifft, yn gapel anwes i Landygái ers talwm, er i'r pentref ddod yn ganolbwynt i'w blwyf ei hun yn y pen draw.

Yn ôl y disgwyl, efallai, mae enwau sy'n cynnwys capel neu eglwys yn cyd-fynd yn agos â'r patrymau a nodir uchod mewn cysylltiad â llan. Mae cyfeirio amlwg at seintiau (Capel Dewi, Capel Garmon) neu leoliad (Eglwys-rhos) neu'r ddau (Eglwys Fair y Mynydd).

'Betws' mewn enwau lleoedd

Er bod betws yn elfen sy'n gyfarwydd mewn enwau lleoedd ledled Cymru, mae'n bosibl bod llai o bobl yn sylweddoli mai cyfeirio at addoldy mae honno hefyd. Mae'n dod o'r gair Saesneg 'bead-house', sef tŷ gweddi.

'Gweddïau' oedd ystyr beads ers talwm, ond daeth i olygu 'gleiniau pader', ac wedyn 'gleiniau' yn fwy cyffredinol.

Unwaith eto, mewn cysylltiad â betws, mae elfennau disgrifiadol i'w gweld yn cyfeirio at seintiau (Betws Garmon) neu leoliad (Betws-y-coed, Betws-yn-Rhos, Betws Cedewain). Yn achos Betws Gwerful Goch, mae'n ymddangos bod yr enw yn cofio un o wyresau'r tywysog Owain Gwynedd ac mai honno a wnaeth sefydlu'r tŷ gweddi yno.

Cyfeiriadau crefyddol eraill

Mae'r enw Radur yn cyfeirio at addoldy hefyd. Mae'n tarddu o'r gair Lladin oratorium, sef tŷ gweddi neu gapel.

Mae tystiolaeth glir ynghylch agweddau eraill ar y bywyd crefyddol i'w chael mewn enwau lleoedd. Cymerwch, er enghraifft, yr elfen cell - sef trigfan mynach. Mae hon i'w gweld yn yr enw Cellan, sef cell fach, yn ne Ceredigion, ac mae'n bosibl mai arwyddocâd crefyddol oedd i'r celloedd yn Nolgellau.

Mae'r elfen mynechdid, sydd i'w gweld yn yr enw Efenechdyd (neu Y Fenechdid) yn ymyl Rhuthun, yn cyfeirio at fynachlog neu adeilad a oedd yn gysylltiedig â mynachlog.

Cyfeirio at grefyddwyr mae elfennau fel meudwy (Ynysmeudwy, Porth Meudwy) neu ermid (Bodermid), sef hen ffurf ar 'hermit' mewn Saesneg. Mae'r un peth yn wir yn achos Llanddyfrwyr, sef Llanddowror erbyn hyn. Yr ail elfen yma yw dyfrwyr, yr yfwyr dŵr - hynny yw, llwyrymwrthodwyr. Yr oedd Dewi Ddyfrwr yn llysenw ar Ddewi Sant ei hun, wrth gwrs.

Mae'r elfennau esgob ac offeiriad yn ymddangos yn Saesneg yn Presteigne a Bishopston er enghraifft. Mae mynach yn fwy cyffredin (a'u ffurfiau lluosog megis myneich neu mynech, fel yn Llanymynech), ond mae eisiau cofio mai afon yw Mynach hefyd - fel yn yr enw Pontarfynach yng Ngheredigion, neu Abermynach ym Meirionydd.

Mi allai rhywun feddwl yn hawdd bod yr elfen merthyr yn cyfeirio at fath arall o ffigur crefyddol a barnu yn ôl ei ystyr erbyn hyn, sef rhywun sy'n dioddef hyd angau dros ei ddaliadau. Anghywir fyddai gwneud hynny gan fod merthyr mewn enwau lleoedd yn golygu adeilad wedi'i godi yn agos i fedd sant neu santes. Mae'n dod o'r gair Lladin martyrium.

Wrth gwrs, nid oes angen mynd yn ôl mor bell â'r Oesoedd Canol i ganfod dylanwad crefydd ar enwau lleoedd Cymru. Mae yna enghreifftiau lu o drefi neu bentrefi yn cael eu henwi ar ôl capeli anghydffurfiol lleol a oedd yn eu tro wedi'u henwi ar ôl lleoedd a grybwyllir yn y Beibl. Dyma restru rhai: Bethania, Bethel, Bethesda, Bethlehem, Beulah, Golan, Hermon, Horeb, Nasareth, Nebo, Peniel, Pisgah, Salem. Mae Sodom, ym mhlwyf Bodfari, yn cynnig ongl wahanol ar yr enwi Beiblaidd.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.


Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.