Help / Cymorth

Archifau Medi 2012

Neville Southall - The Binman Chronicles

Glyn Griffiths|13:25, Dydd Iau, 20 Medi 2012

Sylwadau (0)

Gyda Neville Southall yn cyhoeddi ei lyfr newydd - 'The Binman Chronicles', daw atgofion am yr amser yr oeddwn yn cydweithio fel hyfforddwr gyda Neville ar ei ysgolion peldroed (Neville Southall Soccer Schools) yng Ngogledd Cymru.

Cynhaliwyd y cyrsiau yma am rhyw dridiau yn ystod gwyliau ysgol, a gan amlaf yn ardaloedd Llandudno a Bae Colwyn - gyda Neville yn sicrhau ei fod yn cyrraedd yno ar ol ymarfer yn y bore gydag Everton.

Ym mhob un o'r cyrsiau hyfforddi yma, roedd Neville yn sicrhau fod rhai o enwogion y byd peldroed yn bresenol, a rhoddodd hyn brofiad gwerthfawr i chwaraewyr ifanc y Gogledd o gyfarfod rhai o enwogion y byd peldroed.

Daeth y blaenwr Peter Beardsley draw i Landudno, a hefyd rheolwr Everton ar y pryd, Mike Walker i Landrillo, a chafwyd ymweliad gan sawl aelod o dîm Everton mewn canolfannau eraill.

Roedd Neville yn awyddus iawn i roi profiad bythgofiadwy i'r peldroedwyr ifanc, ac ar un adeg fe gynhaliodd gwrs undydd er mwyn casglu arian at elusen i helpu plant a salwch difrifol.

Dyna'r math o berson ydi Neville Southall. Un sydd yn barod ei gymwynas i helpu eraill ac i gyfoethogi eu bywydau.

Tydi'n ddim syndod o wybod ei fod erbyn heddiw yn cynnal gweithgareddau sydd yn helpu eraill i gyfoethogi eu bywydau.

Roedd profiad y Neville Southall Soccer Schools' wedi bod yn sylfaen gadarn.

Pob hwyl iddo yn ei fenter addysgiadol presennol ac i'r llyfr newydd.

Serbia v Cymru

Glyn Griffiths|14:57, Dydd Iau, 13 Medi 2012

Sylwadau (0)

Pan ddaeth yr enwau allan o'r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014, roeddwn yn teimlo'n gwbl hyderus am obeithion Cymru.

Yn wir, dyma ddyfyniad allan o golofn a sgwennais ar ôl deall pwy fyddai ein gwrthwynebwyr yng Ngrŵp A:

Mae gweld Cymru yn yr un grŵp a Croatia, Gwlad Belg, Macedonia, yr Alban a Serbia wedi codi gobaith newydd. Alla'i ddim cofio unrhyw beth mae Gwlad Belg wedi ei gyflawni yn ddiweddar fyddai yn ein dychryn, ac er nad yw Cymru wedi curo Croatia mewn tair gem, anwadal ydi safon eu peldroed. Tydi Macedonia ddim yn dim i ni golli cwsg drostyn nhw, tra fod Serbia yn dibynnu yn ormodol ar garfan fechan o chwaraewyr megis amddiffynnwr Manchester United Nemanja Vidic. Does ond i Gymru efelychu eu perfformiad yn erbyn yr Alban ar faes Caerdydd yn 2009 i sicrhau na fyddai ein cefndryd Celtaidd chwaith yn profi'n faen tramgwydd ansymudol. Petaech wedi gofyn i unrhyw wlad pa dim oeddynt am ei osgoi o'r pot chwech isaf, gallwch fod yn sicr mai Cymru fyddai pob un wedi ei enwi.

Croeso i gemau rhagbrofol Cwpan y Byd; byddai dechrau da yn hanfodol, ac edrychwn ymlaen yn awr i weld os caiff y gemau eu trefnu mewn dull a fyddai yn sicrhau'r cychwyn gorau i Gymru.
Wel wir - welsoch chi'r fath falu awyr erioed - ond o leiaf dwi'n barod i dderbyn fy ngham, ac mae'n eithaf amlwg heddiw fod yn rhaid i'r chwaraewyr a phawb arall sydd yn ymwneud a'r tîm cenedlaethol dderbyn fod gwaith called i'w wneud os am achub unrhyw beth yn erbyn yr Alban ar Hydref 12.

Digon hawdd pwyntio bys, digon hawdd dweud fod yna ormod o chwaraewyr allweddol ddim ar gael, ond ni ddylai James Collins gysgu'n hawdd ar ôl ei dacl ffol yn erbyn Gwlad Belg. Dwi ddim wedi fy argyhoeddi chwaith fod gan Gymru arweiniad cadarn ar hyn o bryd ac fe fyddai'n well gen i weld Aaron Ramsey yn cael llonydd i gydgordio canol cae na cheisio arwain yr holl dîm. Oni fyddai Ashley Williams yn well fel arweinydd a chapten?

Yn y gôl dydw'i ddim wedi fy argyhoeddi gan Boaz Myhill chwaith er mai Glyn ydi ei enw iawn o (ond ar ôl nos Fawrth fe gaiff ei alw yn Boaz am y tro)!! Dwi wedi gweld Owain Fôn Williams yn chwarae dwywaith y tymor yma yn barod - yn dangos cysondeb, yn ddewr ac yn awdurdodol ei ddull. Y tu ôl i amddiffyn Tranmere Rovers, sydd ond wedi ildio dwy gol ac sy'n eistedd yn ail safl'r Adran Gyntaf, mae Owain yn chwarae yn rheolaidd ac yn dangos cysondeb parhaol yn ei gem ei hun, fel aelod o dim sydd ar hyn o bryd yn llawn hyder.

Dydw'i ddim yn rhannu barn rhai o'r cefnogwyr, sydd ar wefannau cymdeithasol, yn brysur feirniadu Chris Coleman. Camgymeriadau a diffyg canolbwyntio unigol oedd yn fwyaf amlwg yn y ddwy gêm yn erbyn Gwlad Belg a Serbia, ond fe fydd rhaid i'r rheolwr a'i dim sicrhau y bydd y garfan gyfan yn dod i Gaerdydd ar Hydref y deuddegfed yn llawn hyder a gobaith am ail afael a'u gobeithion.

Ceir cysur wrth inni ddeall y bydd gwledydd Croatia, Macedonia, a Serbia yn siŵr o gymryd pwyntiau oddi ar ei gilydd, ac os allwn ddefnyddio esiampl, neu ddysgu gwers o hanes, yna ar ôl colli o 5 - 1 yn erbyn Romania yn 1992, newidiwyd ffurf y tîm gan Terry Yorath, a chafwyd rhediad o ganlyniadau ffafriol.

Yr hyn fydd angen i Coleman ei wneud ydi ystyried sut i wella'r tîm yn sylweddol, fel ag y gwnaeth Yorath, ac i hyn ddigwydd, bydd angen inni gyd ei gefnogi i'r eithaf.

Os gall hyn ddigwydd, ac yn cychwyn yn erbyn yr Alban, yna pwy a ŵyr, - hwyrach daw haul ar fryn unwaith eto. A does ond gobeithio y bydd Craig Bellamy yn parhau gyda ni!

Llywydd newydd Cymdeithas Beldroed Cymru

Categorïau:

Glyn Griffiths|10:57, Dydd Llun, 10 Medi 2012

Sylwadau (0)

Llywydd newydd Cymdeithas Beldroed Cymru ydi Trefor Lloyd Hughes o Gaergybi.

Cydnabyddir Trefor Lloyd Hughes am ei waith o fewn y Gymdeithas sy'n ymestyn dros ddeugain mlynedd.

Dechreuodd fel chwaraewr i glwb Bodedern ar Ynys Môn, a bu am rai blynyddoedd yn brwydro dros ystyriaeth a chydnabyddiaeth i chwaraewyr lleol, a bu'n sylfaenol, ynghyd a'r diweddar Elfed Ellis, dros sefydlu cronfa ar gyfer sicrhau yswiriant i chwaraewyr a gaiff eu hanafu mewn gemau yng nghynghreiriau Gogledd Cymru.

Bu yn weinyddwr lleol ar nifer o gynghreiriau a chymdeithasau lleol, cyn cael ei ethol yn aelod llawn o Gymdeithas Beldroed Cymru gan sicrhau fod gwaith y Gymdeithas Beldroed yng Nghymru yn dod yn llawer mwy tryloyw.

Cafodd ei ethol i swydd Trysorydd y Gymdeithas cyn dod yn is-lywydd, ac yn sgil ei ymroddiad I'r byd peldroed yng Nghymru, mae hefyd wedi sicrhau y bydd gan unrhyw un yr hawl i drafod materion yn y Gymraeg o hyn ymlaen. Daeth hyn wedi iddo gefnogi ymdrechion Cynghrair Caernarfon a'r Cylch i fynnu hawl cyfartal i'r Iaith,

Mae hefyd yn aelod o'r pwyllgor rhyngwladol sydd yn penderfynu ar reolau'r gêm yn fyd-eang. Mae cyfansoddiad y pwyllgor rheolau yn golygu fod rhaid cael cynrychiolaeth o Gymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban yn ogystal â chynrychiolydd o FIFA ar y grŵp. Mae hyn yn cydnabod mai ym Mhrydain y dechreuodd y gêm, ac mai gan gyfuniad o fyfyrwyr o brifysgolion Caergrawnt a Rhydychen y trefnwyd y rheolau cyntaf yn 1863.

Gyda llaw, roedd Cymro ymysg y myfyrwyr arloesol yma, sef Henry Lewis Williams, mab teulu John Williams, Highfield Hall yn Llaneurgain ( tua milltir o gartref presennol y blaenwr Michael Owen). Cyn disgybl yn Ysgol Fonedd Harrow, fe aeth I astudio yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd i fod yn offeiriad yr Eglwys yn Lloegr, yn ardaloedd Bebington (ar Benrhyn Cilgwri), ac yna yn Swydd Efrog a Swydd Nottingham.

Ond yn ôl at y presenol, a dyma'r pwyllgor rheolau FIFA sydd wedi penderfynu yn ddiweddar y gellir defnyddio technoleg fodern i wneud penderfyniadau penodol o fewn y gêm yn y dyfodol.

Yn 2003, cafodd gwaith Trefor Lloyd Hughes yng nghyd-destun amddiffyn plant o fewn peldroed yng Ngogledd Cymru ei gydnabod fel un arloesol, pan dderbyniodd anrhydedd gan y Gymdeithas er Atal Creulondeb i Blant, yr NSPCC. Daeth y polisïau Amddiffyn Plant a gafodd eu cynllunio o dan ei gadeiryddiaeth ar ran Cymdeithas Beldroed Gogledd Cymru, eu mabwysiadau fel sail i sefydlu arferion da gan Gymdeithas Beldroed Lloegr, UEFA (Cymdeithas Beldroed Ewrop), a hefyd FIFA (Cymdeithas Beldroed Rhyngwladol y Byd).

Tra fod llawer yn cwyno nad yw Cymru yn llwyddo ar lwyfan gemau peldroed rhyngwladol, da ydi nodi dylanwad aruthrol Trefor Lloyd Hughes, sydd wedi rhoi sail i sicrhau amgylchedd mwy diogel i blant o fewn gemau peldroed ar draws y Byd.

Tipyn o fraint ac anrhydedd felly i'r gŵr o Ynys Môn, sydd erbyn heddiw yn eistedd ochr wrth ochr a mawrion FIFA gyda llais o fewn materion pwysicaf peldroed rhyngwladol.

Wrth siarad â Trefor yr wythnos diwethaf, mae ei werthfawrogiad am y gefnogaeth mae wedi ei gael gan bawb - yn gefnogwyr, chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion - yn enfawr, ac mae balchder o'r cefndir Cymreig ar Ynys Môn llawn mor gryf ac a fu erioed.

Pob hwyl i'n Llywydd newydd.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.