Pwysau a disgwyliadau Wrecsam a Chasnewydd
Fydd yna ddim llawer o wyliau i Wrecsam na Chasnewydd dros Ŵyl y Banc! Mae'n benwythnos pwysig I'r ddau glwb, er ei bod mor fuan yn y tymor.
Mae Casnewydd wedi gosod safon fydd yn gofyn llawer ar y chwaraewyr os am ei gynnal drwy'r tymor - tair gêm, deg gôl ac ar frig y Gyngres.
Tîm newydd wedi ei greu yn ôl athroniaeth a gweledigaeth eu rheolwr Justin Edinburgh. Ddydd Sadwrn byddant yn teithio i Braintree, ac yna gêm fawr yn erbyn Henffordd nos Fawrth, hwythau hefyd wedi cael cychwyn da I'r tymor, ac yn yr ail safle cyn y penwythnos.
Bydd rhaid i Wrecsam gael buddugoliaeth bnawn Sadwrn ar y Cae Ras yn erbyn Grimsby.
Dechreuwyd y tymor yn cario'r baich o fod wedi dod mor agos y llynedd, gyda llawer yn disgwyl iddynt gael dyrchafiad.
Ond mae llwyddiant yn gallu creu problemau - nid yn unig drwy weld rhai o'r cefnogwyr yn disgwyl gormod, ond drwy weld y timau eraill yn ystyried Wrecsam fel bygythiad a hwyrach yn codi eu safon yn eu herbyn.
Ond Wrecsam fydd yn gorfod codi'r safon y penwythnos yma. Byddai canlyniad ffafriol yn erbyn Grimsby, sydd heb ennill ar ôl tair gêm, yna oddi cartref yn Tamworth ddydd Llun, sydd cyn y penwythnos, wedi ennill dwy a dod yn gyfartal yn eu gêm arall, yn rhoi arwydd clir inni o'r hyn y gellir ei ddisgwyl dros yr wythnosau nesaf.
Nid ar gychwyn tymor mae'r amser i ddathlu, ond tybed a fydd Casnewydd yn etifeddu'r fantell a wisgodd Wrecsam y llynedd fel tîm sydd yn edrych fel petaent am ennill dyrchafiad i ail-adran Lloegr ar ddiwedd y tymor?
Neu a oes yna glwb llawn cyfoeth am wneud yr hyn a wnaeth Fleetwood a'u harian i Wrecsam y llynedd, a dwyn y siawns o dan eu trwynau ?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 