Amser rhyfedd i gynnal gemau cyfeillgar!
Amser rhyfedd i gynnal gemau cyfeillgar - rhyw dri diwrnod cyn cychwyn tymor! Ond dyna ni, does dim dadlau efo trefn FIFA o wneud pethau!
Siom I Gymru wrth golli yn erbyn Bosnia-Herzegovina a bydd digon wedi ei ddweud a'i ysgrifennu am hyn.
Mae Cymru wedi collie u tair gem ddiwethaf, a heb sgorio yr un gôl yn y dair gem hynny - tipyn o ofid cyn cyfarfod Gwlad Belg yn gêm gyntaf ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Brasil, 2014.
Siom hefyd i dîm o dan 21 Cymru a gollodd i Armenia ar y Cae Ras. Doedd gweld yr amddiffynnwr David Stephens yn cael ei anfon o'r maes ar ôl chwe munud fawr o gymorth, a gydag Armenia yn sgorio gyda chic o'r smotyn yn dilyn y drosedd gan Stephens , roedd hynny yn ddigon i ennill y gêm.
Ymddengys fod perfformiadau dau dîm Cymru ar y noson yn rhai eithaf tebyg - patrwm gweddol dda, cyd basio gweddol daclus, ond yn methu a chreu cyfleodd yn y traean olaf o gwmpas ceg gôl eu gwrthwynebwyr.
Dwedodd Chris Coleman fod angen gwella - ac mae hyn yn wir. Rhaid hefyd sicrhau fod y chwarae disgybledig yn gallu creu cyfleodd, a bod naws creadigol y chwaraewyr (yn y ddau dîm) yn gallu dod i'r amlwg. Bydd angen perfformiad o safon uchel os am guro Gwald Belg sydd yn fwyaf sydyn wedi dod yn fygythiad ac yn ffefrynnau posib I ennill y grŵp. Roedd eu buddugoliaeth o bedair gôl o ddwy dros yr Iseldiroedd yn arwydd o'r hyn y gellir ei ddisgwyl ganddynt ar Fedi'r 7fed.
Cyn cloi, llongyfarchiadau i Rhian Wilkinson, y ferch a gafodd ei magu yn y Bontfaen ac a gafodd sylw yn y blog yma dros y bythefnos diwethaf. Enillodd Rhian fedal Efydd fel aelod o dîm peldroed merched Canada yn y Gemau Olympaidd. Cawsom neges ganddi ganol wythnos yn diolch am y gefnogaeth a gafodd ac yn mynegi balchder o'i Chymreictod ac yn ddiolchgar am roi sylw i hyn. Pob lwc iddi yn y dyfodol.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 