Cymru 0 - 2 Mecsico
Tîm profiadol, ymysg yr ugain uchaf yn rhestr detholion FIFA, yn erbyn tîm sydd wedi cael ei ail-strwythuro a heb chwarae gyda'i gilydd o'r blaen.
Ond ar y cyfan doedd perfformiad Cymru yn absenoldeb Gareth Bale, Joe Ledley a David Vaughan ddim yn un ffôl.
Dwy gôl i'r blaenwr Aldo De Nigris, y gyntaf wedi i amddiffyn Cymru gael ei ymestyn ar yr esgyll gwpwl funudau cyn yr egwyl. Y golwr Jason Brown yn oedi, Chris Gunter yn methu gweld symudiad de Nigris y tu cefn iddo, a'r peniad yn rhoi'r Mecsicanwyr yn haeddiannol ar y blaen cyn hanner amser.
Er gwaethaf ymdrechion Ashley Williams i gadw trefn a disgyblaeth yn yr amddiffyn, roedd ymosodiadau Mecsico i lawr y ddwy asgell yn ymddangos yn ddi-dor ar adegau gyda Chymru yn idio'r meddiant yn llawer rhy hawdd yng nghanol y cae.
Ymateb Brown i'w oedi costus yn yr hanner cyntaf oedd perfformio yn arwrol yn yr ail hanner, gydag un arbediad yn fy atgoffa o arbediad gwyrthiol Gordan Banks yn erbyn peniad Pele yng Nghwpan y Byd yn 1970 (ym Mecsico).
Parhaodd Cymru i geisio goroesi'r storm o ymosodiadau a petai eu gwrthwynebwyr wedi gallu saethu yn well, yna byddai 'r sgôr wedi bod llawer mwy.
Ond gyda munud yn weddill o'r 90, sgoriodd De Nigris ei ail-gôl ac ail gôl Mecsico, wrth lithro rhwng dau o amddiffynwyr canol Cymru a throi'r bel o'r chwith yn gelfydd i gefn y rhwyd a rhoi diwedd ar obeithion Cymru.
Perfformiad gweithredol, a disgybliedig i rhyw raddau ond ni welwyd llawer o agweddau creadigol. Unwaith eto fe welwyd yr hyn sydd yn bythol wir am Gymru, sef ein bod yn ei chael yn anodd cystadlu heb ein chwaraewyr gorau a allai newid cwrs a dylanwadu ar y perfformiad.
Ond roedd yn gychwyn, ac mae gan Chris Coleman a'i dim hyfforddi well dealltwriaeth o allu a chymeriad eu chwaraewyr erbyn heddiw.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 