Tîm profiadol, ymysg yr ugain uchaf yn rhestr detholion FIFA, yn erbyn tîm sydd wedi cael ei ail-strwythuro a heb chwarae gyda'i gilydd o'r blaen.
Ond ar y cyfan doedd perfformiad Cymru yn absenoldeb Gareth Bale, Joe Ledley a David Vaughan ddim yn un ffôl.
Dwy gôl i'r blaenwr Aldo De Nigris, y gyntaf wedi i amddiffyn Cymru gael ei ymestyn ar yr esgyll gwpwl funudau cyn yr egwyl. Y golwr Jason Brown yn oedi, Chris Gunter yn methu gweld symudiad de Nigris y tu cefn iddo, a'r peniad yn rhoi'r Mecsicanwyr yn haeddiannol ar y blaen cyn hanner amser.
Er gwaethaf ymdrechion Ashley Williams i gadw trefn a disgyblaeth yn yr amddiffyn, roedd ymosodiadau Mecsico i lawr y ddwy asgell yn ymddangos yn ddi-dor ar adegau gyda Chymru yn idio'r meddiant yn llawer rhy hawdd yng nghanol y cae.
Ymateb Brown i'w oedi costus yn yr hanner cyntaf oedd perfformio yn arwrol yn yr ail hanner, gydag un arbediad yn fy atgoffa o arbediad gwyrthiol Gordan Banks yn erbyn peniad Pele yng Nghwpan y Byd yn 1970 (ym Mecsico).
Parhaodd Cymru i geisio goroesi'r storm o ymosodiadau a petai eu gwrthwynebwyr wedi gallu saethu yn well, yna byddai 'r sgôr wedi bod llawer mwy.
Ond gyda munud yn weddill o'r 90, sgoriodd De Nigris ei ail-gôl ac ail gôl Mecsico, wrth lithro rhwng dau o amddiffynwyr canol Cymru a throi'r bel o'r chwith yn gelfydd i gefn y rhwyd a rhoi diwedd ar obeithion Cymru.
Perfformiad gweithredol, a disgybliedig i rhyw raddau ond ni welwyd llawer o agweddau creadigol. Unwaith eto fe welwyd yr hyn sydd yn bythol wir am Gymru, sef ein bod yn ei chael yn anodd cystadlu heb ein chwaraewyr gorau a allai newid cwrs a dylanwadu ar y perfformiad.
Ond roedd yn gychwyn, ac mae gan Chris Coleman a'i dim hyfforddi well dealltwriaeth o allu a chymeriad eu chwaraewyr erbyn heddiw.
Faint ohonoch sydd yn cofio diwedd tymor 1989 yn Lloegr pan gipiodd Arsenal y teitl o dan drwynau Lerpwl yn Anfield, a hefyd diwedd tymor 1999 efo buddugoliaeth Manchester United yn ffeinal Cwpan Ewrop yn erbyn Bayern Munich?
Y Sul diwethaf roedd dwy gêm yn cael eu chwarae ar yr un adeg, a ffawd yr Uwchgynghrair yn dibynnu ar eu canlyniad.
A fu yna ddiweddglo mor gyffrous?
Roberto Mancini, rheolwr Manchester City yn ymddangos fel petai yn ceisio ei orau i blesio beirniaid Britain's Got Talent efo'i ddynwarediad o Basil Fawlty. Wrth ei ochor - Mark Hughes, yn edrych fel pin mewn papur yn ei siwt daclus - ond oddi tan yr wyneb, mwy na thebyg yn padlo fel alarch ar y dŵr.
Draw yn Sunderland, Syr Alex a holl gefnogwyr Manchester United yn meddwl eu bod wedi ennill y goron ar ddiwedd eu gem - cyn i Manchester City greu rhyfeddod sydd i'w gymharu â buddugoliaeth United yn erbyn Munich.
Y tro diwethaf i Manchester City ennill coron Uwchgynghrair Lloegr, roedd cân Louis Armstrong ar frig y siartiau- 'Wonderful World', yn rhyfeddu ar yr awyr las, y cymylau gwyn a ffrindiau oll.
Ar ddiwedd prynhawn Sul, roedd yr awyr yn las a hyfryd uwchben Stadiwm Etihad yn nwyrain Manceinion.
Draw yn Sunderland, mae'n debyg fod yr awyr yn las ymysg cefnogwyr United am wahanol resymau!
Rhyfeddod y byd peldroed yng ngemau olaf y tymor.
Nos Sadwrn, bydd Chelsea yn wynebu Bayern Munich yn Ffeinal Cwpan Ewrop. Tybed a fydd yr awyr yn parhau yn las, y cymylau yn wyn, a rhyfeddod y byd peldroed yn parhau am ddiwrnod arall?
Ar ôl meddwl fod Cymru am feddiannu Wembley ar ddiwedd y tymor, cawsom siom o weld Caerdydd a Wrecsam yn llithro yn y gemau ail gyfle.
Dim trip. Dim Wembley. Que sera, sera - meddan'nhw!
Ond, mae gennym ni Gasnewydd.
Gofidio na fyddant yn cadw eu lle yn Gyngres fu'r cefnogwyr drwy gydol y tymor, ond daeth golau dydd yng Nghystadleuaeth Tlws Cymdeithas Beldroed Lloegr.
Mae'r tîm o Went ar y ffordd i blasdy penagored peldroed Loegr yn eu crysau aur - i dir cysegredig Roy Hodgson a gwlad yr addewid o dan y bwa anferth.
Ond tybed a fydd yna bot o aur o dan y bwa i Gasnewydd?
Roedd yna stori peldroed yn mynd o gwmpas ar un adeg yn gofyn pa dim oedd yn gallu cicio'r bel bellaf. Yr ateb oedd Tottenham Hotspurs gan eu bod yn gallu cicio'r bel mor bell ag Edinburgh, ie Justin Edinburgh, rheolwr presennol Casnewydd.
Wel bellach mae Justin Edinburgh yn arwain ei dim i Wembley i wynebu Caer Efrog - tîm sydd yn cynnwys cyn chwaraewr Bangor, y Cymro Jamie Reed.
Ond bydd Justin Edinburgh yn gobeithio am well y tro yma gan iddo gael ei anfon o'r maes pan chwaraeodd yno i Tottenham Hotspurs yn erbyn Caerlŷr yn ffeinal Cwpan y Gynghrair yn 1999. Dyma ddigwyddiad dadleuol, gydag Edinburgh yn codi ei fraich a Robbie Savage yn disgyn fel petai wedi cael ei saethu! Er i Tottenham ennill y gêm o un gôl i ddim, mae llawer yn cofio'r digwyddiad yna yn fwy na'r canlyniad!
Ond tybed all Casnewydd ddod a'r Tlws i Gymru am y tro cyntaf - a thrwy hynny efelychu camp Caerdydd pan enillwyd Cwpan y F.A. yn erbyn Arsenal yn 1927? Bydd angen iddynt hefyd fynd un cam yn well yn y Tlws na wnaeth Bangor a gafodd gêm gyfartal ar Wembley cyn colli mewn gêm ail chwarae yn Stoke yn 1984 yn erbyn Northwich Victoria.
Cadwch lygaid ar Gasnewydd - bydd angen y gefnogaeth arnynt.
Bydd ffeinal Cwpan Cymru yn cael ei chynnal brynhawn Sadwrn yn Stadiwm Nantporth, Bangor a dyma'r tro cyntaf ers 1993 (pan gurodd Caerdydd y Rhyl o bum gol i ddim o flaen torf o un mil ar bymtheng ar yr hen Stadiwm Genedlaethol), i dîm o'r tu allan i'r Uwchgynghrair gyrraedd y rownd derfynol.
Derwyddon Cefn ydi clwb hynaf Cymru, a byddant yn torri cwys newydd yn eu hanes wrth gymhwyso ar gyfer Ewrop y tymor nesaf.
Gan fod y Seintiau Newydd - eu gwrthwynebwyr yn y rownd derfynol, eisoes wedi ennill coron Uwchgynghrair Cymru, ac yn cymhwyso ar gyfer Cynghrair Ewrop y tymor nesaf, bydd y Derwyddon yn cael cystadlu yng Nghwpan Ewropa.
Tipyn o gamp i'r tîm sydd yn chwarae yng nghynghrair Huws Gray Gogledd Cymru ond maen't wedi curo tri o dimau'r Uwchgynghrair ar y daith, sef Prestatyn, Aberystwyth ac Airbus.
Tybed felly ydi hyn yn awgrymu y gall y gêm fod yn agosach nag y mae rhywun yn ei dybio, ac nad oes yna lawer o wahaniaeth rhwng rhai o dimau'r Uwchgynghrair a thimau gorau cynghrheiriau y De a'r Gogledd?
Ond gyda'r Seintiau wedi rhoi cais i ymuno a dwy o gystadlaethau Lloegr y tymor nesaf sef, Cwpan Cymdeithas beldroed Lloegr, a hefyd Tlws Lloegr, mae'n anodd deall beth yn union ydi cenedlaetholdeb y Seintiau erbyn hyn a ble mae eu dyfodol.
Yn y cyfamser does ond gobeithio y bydd gêm gwerth ei gweld gan dîm hynaf Cymru ac un o dimau hynaf Lloegr ar Nantporth, ac y bydd yna dorf gwerth chweil yn bresennol.