Talu dyledus barch
Ymddengys fod Uwchgynghrair Lloegr am weithredu i ddileu ymddygiad annerbyniol chwaraewyr tuag at ddyfarnwyr, er bod ymddygiad Wayne Rooney ar ôl cyflawni hytrach y Sadwrn diwethaf yn awgrymu mad oedd pawb wedi derbyn, neu ddeall y neges!
Mae hyn wedi codi yn sgil y dadlau di-ben-draw, yr ymgynnull o gwmpas y rheolwr os am anghytuno a'i ddyfarniad, a hefyd yn sgil beirniadaeth o ddyfarnwyr gan reolwr.
Derbyniodd Syr Alex Ferguson ddirwy a'i wahardd o fod wrth ochor ystlys y cae, yn dilyn ei sylw ar y dyfarnwr Martin Atkinson yn ddiweddar.
Mae hyn hefyd yn ceisio adlewyrchu cynllun 'parch' (respect) sydd yn rhan annatod o athroniaeth Cymdeithas bêl-droed Lloegr eleni.
Cyn gemau ar Old Trafford, fe welir baner gyda'r gair 'respect' yn cael ei dywys o amgylch y cae.
Ond cynted ag y mae'r gêm yn dechrau, mae neges y faner yn ymddangos fel petai yn diflannu i'r gwynt!
A faint o barch mae rhai o'r dyfarnwyr yn ei ddangos i chwaraewyr?
Rwyf yn gofyn hyn gan fy mod yn credu nad ydi'r rhai dyfarnwyr chwaith heb eu beiau.
Rwyf wedi clywed dau ddyfarnwr, uchel eu parch ac uchel eu safon, yng Nghymru yn beirniadu chwaraewyr mewn rhaglenni ar y cyfryngau.
Aeth un ati i gyhuddo peldroedwyr o fod yn ddim gwell na thwyllwyr, a mynnodd un arall fod pob chwaraewr yn cael pob chwarae teg a dim rhagfarn yn eu herbyn.
Dywedodd hefyd ei fod yn darparu ar gyfer gemau drwy wneud ei waith cartref i edrych sut fath o ymddygiad a ddangosir gan chwaraewyr penodol a gwylio allan am yr elfennau yn y gemau!
Chware teg i bawb? Cyfleoedd cyfartal? A phwy, os ydi'r agwedd yma yn bodoli, ydi'r dyfarnwyr i gyhuddo chwaraewyr o fod yn dwyllwyr?
Na farner fel na'ch barno!
Oes, mae angen glanhad o fewn y gêm? Oes mae angen llai o ddadlau ac ymddygiad treisgar, ac ydynt, mae rhai chwaraewyr yn gosod esiampl annerbyniol i chwaraewyr ifanc sydd yn hawdd dylanwadu arnynt?
Ond, yn ogystal â hyn, mae'n hen amser i ddyfarnwyr hefyd chware eu rhan a bod yn llai rhagfarnllyd eu hagwedd, a mwy cyson eu penderfyniadau. Wedi'r cwbl, mae'r pwerwedi bod yn nwylo'r dyfarnwyr erioed i roi terfyn ar helyntion ar y cae, ond gwan ydi ymateb y dyfarnwyr, ar y cyfan wrth i chwaraewyr ymgynnull a dadlau. Ymddengys ei fod yn llawer hawdd dangos cardiau am dynnu crys , neu or-ddathlu na gweithredu yn bendant a phositif pan fo ymddygiad annerbyniol yn cael ei weld.
Oes yna unrhyw gysondeb mewn dangos cerdyn melyn i chwaraewr sydd yn tynnu ei grys wrth gyffroi ar ôl sgorio, a dangos cerdyn melyn i chwaraewr sydd newydd anafu ei wrthwynebwr? Does dim cymhariaeth rhwng difrifoldeb y ddwy esiampl yma, ond yr un ydi'r gosb a'r ymateb.
A dyna ni, dwi'n deud dim, deud dwi nad oes yna ddim dadl ynglŷn â'r peth, felly dyma ffŵl stop a therfyn ar bopeth.
Does ryfedd nad yw chwaraewyr a rheolwyr yn mynd yn hollol rwystredig!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 