Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cwpan Cymru

Glyn Griffiths|07:40, Dydd Mercher, 27 Ebrill 2011

'Oni fyddai delwedd pêl-droed Cymru yn llawer mwy positif petai Caerdydd neu Abertawe yn cystadlu yng Nghwpan Ewropa ? Mae'n hen bryd i'r drefn gael ei ail-strwythuro ac ymestyn iddynt yr un hawl ac sydd yn cael ei gynnig i bob clwb o fewn awdurdod Cymdeithas bêl-droed Cymru.'

Dyna oedd pwnc trafod un o flogiau Ar y Marc rhai misoedd yn ôl. Dyma ddyfyniad arall o'r un blog:

'Wn i ddim beth ydi barn a sefyllfa swyddogol y Gymdeithas Beldroed,; diddorol fyddai cael gwybod, wedi'r cwbl, fe gafwyd tîm o Loegr, sef Y Seintiau Newydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Cynghrair Pencampwyr Ewrop ar ddechrau'r tymor!'

Yr wythnos ddiwethaf, cafwyd ateb.

Ymddengys fod cyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru am wahodd Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Casnewydd Merthyr a Bae Colwyn yn ôl i'r Gwpan.

Does dim amheuaeth fod y gystadleuaeth wedi colli peth o'i hygrededd yn ddiweddar, er waethaf ymdrechion Bangor i fynnu hawlfraint ar ei hennill!!!

Mae'n wir hefyd dweud nad yw timau Uwchgynghrair Cymru wedi gwneud fawr o argraff ar Ewrop. Pan mae'r rhai hyn ohonom yn cofio Caerdydd yn cystadlu yn erbyn Real Madrid, neu Wrecsam yn cyrraedd wyth olaf Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, yna mae newid y drefn yn anorfod.

Croeso i'r syniad. Rwyf ond yn gobeithio y bydd timau'r alltudion yn derbyn yr her, yn ehangu gorwelion ac yn cyfrannu tuag at atgyfodi delwedd Cymru ar lwyfan cystadleuaeth Ewrop yn y dyfodol agos.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.