Gyda deunaw mis cyn y gemau Olympaidd yn Llundain, mae ffrae yn codi ynglŷn â chynhwysiant chwaraewyr o Gymru yng ngharfan tîm pêl-droed Prydain.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi cyhoeddi na fyddant yn fodlon i unrhyw un sydd yn gymwys i chwarae dros Gymru gael eu hystyried.
Ond yr wythnos yma, daeth tro ar fyd wrth i Gareth Bale ymddangos fel petai yn awyddus i chwarae dros dîm Prydain.
Ymddengys fod Cadeirydd y Gymdeithas Olympaidd , yr Arglwydd Moynihan, o'r farn y gall chwaraewr sydd yn cael ei rwystro rhag cael ei ystyried gan gymdeithas bêl-droed unrhyw un o wledydd Prydain, gymryd camau cyfreithiol i sicrhau ennill eu lle.
Rhaid atgoffa ein hunain mai diffyg ymddiried yn FIFA ydi sail yr helynt.
Mae Cymru, ynghyd â Gogledd Iwerddon a'r Alban, o'r farn y gallent nhw golli eu statws annibynnol o fewn cyfundrefn FIFA yn sgil sefydlu tîm Prydeinig ar gyfer gemau Llundain.
Mewn campau eraill, megis criced a rygbi, does yna ddim gwrthwynebiad gan gefnogwyr chwaraeon, o weld Cymro yn chwarae criced i Loegr, na chwaith weld gêm brawf yng Nghaerdydd.
Does neb yn cwyno chwaith am sawl Cymro sydd yn nhîm rygbi'r Llewod.
Ond a ellir ymddiried yn FIFA, er iddynt ddweud na fyddai gweld tîm Prydeinig yn y gemau Olympaidd yn effeithio ar statws rhyngwladol ac annibyniaeth Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o fewn y byd pêl-droed ?
A tybed a fyddai dyfodol ac annibyniaeth Lloegr hefyd yn cael ei effeithio gan dîm Prydeinig ?
Mae sail i fod yn wyliadwrus o addewidion FIFA.
Mae eu Llywydd, Sepp Blatter wedi awgrymu y dylai Cwpan y Byd sydd i'w gynnal yn Qatar yn 2022 gael eu lleoli yn y gaeaf, am fod y tywydd yn fwy ffafriol.
Ond nid ar y sail yna y cafodd y gemau eu dyfarnu i Qatar, a brysiodd Qatar i wrthod y syniad.
Mae Michel Platini, Llywydd UEFA, hefyd wedi awgrymu y gall y gemau yma gael eu cynnal mewn nifer o wledydd eraill ar draws gwledydd y Gwlff, yn ogystal ag yn Qatar.
Doedd dim sôn o hyn chwaith pan ddyfarnwyd Cwpan y Byd i Qatar.
Felly, a ddylem gefnogi tîm Prydeinig fel mae'r cricedwyr a'r chwaraewyr rygbi yn ei wneud, neu a ddylem fod yn fwy gwyliadwrus fyth o addewidion FIFA petai chwaraewyr o Gymru yn cael eu lle yn y tîm Prydeinig?