Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Uwchgynghrair. Safon uwch?

Glyn Griffiths|14:22, Dydd Gwener, 1 Hydref 2010

Ad-drefnwyd Uwchgynghrair Cymru er mwyn gwella safonau a gwneud y gynghrair yn fwy cystadleuol.

Ar ôl rhyw fis, a gyda phob tîm wedi chwarae o leiaf chwe gêm, mae Bangor yn arwain gyda'r Seintiau Newydd yn yr ail safle.

Yn anffodus, mae yma dipyn o wahaniaeth rhwng Bangor ar y brig efo 21 o bwyntiau , a Chastell Nedd yn y trydydd safle, gyda thri phwynt ar ddeg.

Ac mae'n ymddangos, ar hyn o bryd, fod yna fwy o gystadlu am le yn y chwech uchaf, ac am osgoi'r ddau safle isaf, nag sydd yna ar y brig.

Dyddiau cynnar rwy'n cyfaddef, ond mae gen i deimlad mai creu cyd-destun cystadleuol gwell am y bencampwriaeth oedd y nod.

Rhaid dweud fod y gemau rwyf wedi eu gweld hyd yn hyn yn dangos safon uchel o chwarae, yn enwedig o ran Bangor a'r Seintiau. Serch hynny, mae yna stŵr wedi codi ynglŷn ag amser cychwyn y gemau, gyda'r Drenewydd yn anhapus gyda'r gic gyntaf am ddau, am fod hyn, yn ôl pob sôn, yn amharu ar y gwerthiant o fewn eu clwb cymdeithasol.

Rwyf ond yn gobeithio mai safon y chwarae ar y cae fydd yn hawlio'r penawdau drwy'r tymor, megis ag a geir ar hyn o bryd gan Fangor a'r Seintiau, ac mae nid creu delwedd o gynghrair sydd yn dibynnu ar faint o greision a chwrw sy'n cael ei werthu cyn, neu o flaen y gemau, yr ydym yn ei gyflawni!

Bydd Bangor yn wynebu'r Seintiau ar Ffordd Farrar bnawn Sadwrn - tybed a fydd gennych sylwadau ar safon yr hyn a welir?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.