Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Bathodyn newydd

Dylan Jones|11:45, Dydd Mawrth, 5 Hydref 2010

Nos Wener fe fydd Cymru yn wynebu Bwlgaria yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn eu hail gêm yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2012.

Mae 'na ddigon o bynciau trafod i gefnogwyr Cymru ar hyn o bryd.

A yw Brian Flynn yn haeddu'r swydd yn llawn amser? Pam bod Craig Bellamy yn absennol, er iddo chwarae i Gaerdydd y Sadwrn diwethaf?

Ond y drafodaeth ar raglen Taro'r Post am hanner dydd brynhawn Mawrth fydd penderfyniad Cymdeithas Pêl Droed Cymru i fabwysiadu bathodyn newydd.

A yw'r penderfyniad i gael gwared a'r bathodyn hanesyddol yn gam yn ôl neu yn adlewyrchu cyfnod newydd i'r tîm cenedlaethol?

Fe fyddaf yn holi is-lywydd y Gymdeithas, Trefor Lloyd Hughes ar y rhaglen ac mae croeso i chi gysylltu gyda ni drwy ffonio 03703 500 500 neu e-bostio [email protected]

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.