Help / Cymorth

Archifau Awst 2010

Llên y bêl

Glyn Griffiths|11:23, Dydd Iau, 26 Awst 2010

Sylwadau (1)

Mae yna nifer o gymariaethau mewn llenyddiaeth Cymraeg a all wneud i gefnogwyr pêl-droed feddwl mai am y gêm, neu ryw chwaraewr, mae nifer o drysorfa'r iaith yn anelu tuag atynt.

Meddyliwch am ddisgrifiad Elis Wynne o'r 'cimwch o gythraul mawr' - a gallwch ddychmygu John Terry ar ei orau ( neu waethaf) yn (ac i ddyfynnu Elis Wynne eto) 'rhuthro ac yn anrheithio' ei ffordd drwy unrhyw flaenwr sydd yn bygwth sgorio!

Neu, fe allwn droi at y rheolwyr ac er waethaf doethinebau Arsene Wenger ( rheolwr Arsenal ) ac 'fe geir gwall ar y callaf weithiau', yn enwedig os ydi un o'i chwaraewyr wedi dioddef trosedd gan' hen lencyn o Gymro nwydwyllt, ffwdanllyd' sydd yn ymddwyn fel 'rhyw darw cynddeiriog o ŵr bonheddig' - a dyna ni Robbie Savage wedi cyrraedd i ganol gweledigaethau'r bardd cwsg.

Cafwyd disgrifiad, yn llyfr y Tri Bob (Robin Williams) am Bob Owen Croesor gynt, gan gyfeirio ato fel 'un tanbaid ei lef hefyd, a'i dymer boeth dania'r byd' - ond a oedd Robin Williams yn gwybod y byddai'r disgrifiad yma hefyd yn portreadu Syr Alex Ferguson pan fo pethau yn mynd yn chwithig?

'Da fyd im yw dyfod Mai' medd Dafydd ap Gwilym - ffeinal cwpan Ceredigion ar ddiwedd tymor efallai? Neu beth am hon gan Jose Mourinho (diolch eto i Mr ap Gwilym) am bron pawb sydd yn ei groesi:-

' Boed iddo yn ei law lwyth
O faw diawl; ef a'i dylwyth'

Ar y llaw arall, diolch i Dafydd Iwan, bydd Sheikh Mansour bin Zayed al Nahyan yn llawn gobaith am y dyfodol yn Manchester City wrth iddo sylweddoli y :-

'Daw llanw wedi'r trai
Daw enfys wedi' glaw
Ac wedi'r nos mi wn y wawr a ddaw'

a hynny am nad yw gwyrthiau'r Arglwydd wedi cael eu cyflawni ers dros ddeng mlynedd ar hugain ar lannau'r City dlawd cyn ymddangosiad a chyfraniad ariannol y Sheik!

Rwy'n arwain y blog yr wythnos yma trwy gyfeirio at gymariaethau llenyddol gan fy mod, yr wythnos yma, wedi derbyn llyfr o gynganeddion - 'Pentwr o 100' o englynion Moi - sef englynion wedi eu cyfansoddi gan Moi Parri o Garmel, Treffynnon, ac sydd yn cynnwys un i'r gêm bêl-droed yn gyffredinol:-

'Hon yw crefydd y cryfion - gan na fu
Ac ni fydd gyfeillion,
Ddaeargred na fydd hirgron
I bybl grym y bêl gron.'

Ceir hefyd ddwy arall ar yr un thema - ond yn benodol i raglen 'Ar y Marc':-

'Daw arnaf yn Sadyrnol rhyw wendid
I wrando'n foreuol
Ar griw rhad DYLANwadol
A'u di-leit mewn siarad lol'.
'Byd y bêl, ei holl helynt a'i gynnwrf A gawn yn siŵr ganddynt; Yn frwd, rhai difyr ydynt; Yn eu maes chwip o dîm ŷnt.'

A dyna ni, gwyliwch y cynganeddion, ag os am gyfrannu, yna cysylltwch â ni, a chawn gynnwys eich cynnyrch llenyddol yma ar y Blog. Gallwch chwydu fel chwilen, neu lamu dros y lleuad, cynnig cic hosan ,neu ddangos mai pen wy sydd gennych - ond bydd llond trol o englynion yn siŵr o gadw pawb ar flaenau'u traed ac mewn pedair llinell o ddwy hanner, yn profi eich bod ar y marc gyda'r awen.

'Go for it my son!'

Bellamy yn cynnig gobaith i Gaerdydd ac eraill

Glyn Griffiths|13:21, Dydd Gwener, 20 Awst 2010

Sylwadau (0)

Yn fy mlog yr wythnos diwethaf, roeddwn yn pendroni ynglŷn â pha un fyddai clwb nesaf Craig Bellamy - a doedd Caerdydd ddim yn un o'r cynigion!

Mae'r heip ynglŷn â Bellamy wedi bod yn enfawr a thra mae hyn wedi bod yn datblygu, mae Manchester United wedi torri cwys newydd yn eu hanes drwy arwyddo chwaraewr o Bortiwgal, Bebe, a gafodd ei fagu mewn cartref i blant anghenus gerllaw Lisbon.

Pam felly bod yna gysylltiad rhwng Craig Bellamy a chwaraewr fel Bebe?

craig_bellamy.jpg

Draw yng ngwlad Sierra Leone, sydd wedi cael mwy na'i rhan o dlodi a thrais dros y blynyddoedd, mae yna academi bêl-droed sydd yn cynnig cyfleoedd a gobaith newydd i lawer o chwaraewyr ifanc.

Datblygiad a gafodd ei sefydlu gan Craig Bellamy ydi'r academi yma - sef y Craig Bellamy Football Academi sydd yn cael ei agor yn swyddogol y mis nesaf.

Cyn barnu fod Bellamy yn derbyn crocbris o gyflog am chwarae gyda Chaerdydd, dylid hefyd nodi y byddai wedi cyfrannu dros £1miliwn o'i arian personol i ddatblygu'r fenter yma gerllaw'r brifddinas Freetown a rhoi, i bobol ifanc gwlad anghenus, gobaith newydd ac amcan i'w dyfodol.

Mae yna eisoes garfan o chwaraewyr addawol, dros un ar ddeg oed, wedi cael eu dewis i fynychu'r academi - gyda chynigion i dros fil a hanner o chwaraewyr ifanc y wlad i ddangos eu doniau mewn cyfres o gemau i edrych os byddant yn ddigon da i gael eu derbyn i'r academi.

Ar hyn o bryd, mae'r detholion yn cael eu hyfforddi yn Ghana, nes bydd yr academi yn barod iddynt ym mis Medi.

Mae Bellamy hefyd yn rhoi pwyslais ar ddatblygu a pharhau addysg y chwaraewyr, gan y gwyddai nad oes sicrwydd o gwbwl yn bodoli yn y byd pêl-droed -beth petai un o'r chwaraewyr yma wedi cyrraedd Manchester City a deall na fyddai dyfodol yno ar ôl tymor llwyddiannus?

Cyn barnu Caerdydd, na barnu Bellamy a'i gyflog, ewch ati i ddysgu mwy am waith y Cymro mewn gwlad anghenus - a cheir gwybodaeth lawn am hyn ar wefan y sefydliad.

Mae'r fenter wedi cael ei sefydlu ynghyd a menter 'right to dream' sef elusen wedi ei leoli yng ngwledydd Ghana, Sierra Leone, Prydain a'r Unol Daleithiau gyda'r amcan o gynnig cyfleoedd i blant o dan anfantais a rhai o gefndiroedd tlawd i gyrraedd eu potensial mewn bywyd drwy chwaraeon ac addysg, a sicrhau y byddant yn cael eu hysgogi i gyfrannu yn bwrpasol i'w cymunedau a'u gwlad.

Mae capten Cymru ac arwr newydd Dinas Caerdydd wedi sicrhau, drwy ymroddiad personol, fod y cyfleoedd yma yn bodoli i'r ifanc ymysg bywyd caled Sierra Leone.
Croeso adref i Gaerdydd a phob lwc i'r fenter dramor.

Be ydi dyfodol Craig Bellamy?

Glyn Griffiths|13:06, Dydd Iau, 12 Awst 2010

Sylwadau (0)

Mae'n eithaf clir nad oes dyfodol iddo ym Manchester City - ond beth am fynd yn ôl i Celtic?

Erbyn heddiw, mae Joe Ledley yng nghanol cae y tîm o'r Alban, a byddai cael Bellamy o'i gwmpas - yn ôl yr hyn a welwyd nos Fercher i Gymru yn erbyn Luxembourg yn fantais fawr - a byddai hefyd o fudd i Gymru os oedd perfformiad yr ail hanner yn unrhyw fath o linyn mesur.

Dylid hefyd dalu teyrnged i berfformiad David Vaughan yn y canol, hynny yn rhyddhau Ledley i gyfuno yn effeithiol mwy nag unwaith a Bellamy, ac yn argoeli'n dda ar gyfer dyfodol Cymru.

Ychwanegwch bresenoldeb Gareth Bale ac fe all John Toshack roi'r gorau i boeni am sut i drefnu ochor chwith Cymru ar gyfer y gemau cystadleuol sydd o'n blaenau. Bydd y cyfuniad o Vaughan, Bale, Ledley a Bellamy yn siŵr o greu problemau dyrys i'r goreuon.

Does ond obeithio y gall Craig Bellamy ddarganfod tîm lle y caiff chwarae'n gyson; byddai cael ei adael allan o garfan City yn yr Uwch Gynghrair ac felly'n dibynnu ar chwarae'n achlysurol mewn gemau Cwpan y Gynghrair yn gwneud ond ychydig i gadw'r ffitrwydd a'r cysondeb yn fyw.

Ond yna os na ddaw cynnig - hwyrach fod Uwch Gynghrair Cymru a Chastell-nedd ar gael iddo!

Croesi'r ffin

Criw Ar y MarcCriw Ar y Marc|22:41, Dydd Gwener, 6 Awst 2010

Sylwadau (0)

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd chwaraewyr sydd wedi cynrychioli tîm lled broffesiynol Cymru yn mynd yn eu blaenau i gynrychioli'r tîm llawn - Owain Tudur Jones a Steve Evans.

Wedi cyfnod gyda Wrecsam ac ar ôl ennill saith cap i'r tîm llawn mae Evans yn ôl gyda'r Seintiau Newydd - ac yn gymwys unwaith yn rhagor i'r tîm lled broffesiynol.

Mae anafiadau wedi llethu gyrfa Jones ac mae chwaraewr Norwich eto i ychwanegu i'r pedwar cap mae eisoes wedi derbyn.

Un arall sydd wedi cynrychioli tîm rhyngwladol lled broffesiynol yw Steve Morison. Chwaraeodd i dîm C Lloegr wyth o weithiau gan sgorio deirgwaith.

Mae'r llun isod yn dangos Morison yn gwisgo crys Lloegr yn erbyn Gibraltar ym Mhencampwriaeth y Bedair Gwlad yn 2008 ac fe sgoriodd unig gôl y gêm.

Bryd hynny roedd yn chwarae i Stevenage Borough ond ar ôl creu argraff yn Broadhall Way fe symudodd i Millwall y llynedd, gyda'r clwb yn sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor drwy'r gemau ail-gyfle.

Ac yn awr mae cyn seren tîm lled-broffesiynol Lloegr wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Lwcsembwrg yn Llanelli nos Fercher.
steve_morison.jpg

Mae'n gymwys i gynrychioli Cymru oherwydd y cafodd ei fam-gu ei geni yn Nhredegar.

Y gobaith yw y bydd Morison yn addasu i bêl-droed rhyngwladol, yn enwedig gan y bu goliau yn bethau prin i Gymru yn ystod cyfnod John Toshack.

Pwy a wyr efallai ymhen blwyddyn fe fydd wedi sefydlu ei hun yn nhîm Cymru erbyn y bydd y cochion yn wynebu Lloegr yn Wembley.

Ac mae'n werth nodi bod Morison wedi yn aelod o'r tîm buddugol yn y tair gêm y chwaraeodd yn y Wembley newydd!

Gadewch i ni wybod pwy, yn eich barn chi, o'r Saeson sydd wedi ymrwymo i Gymru, sydd wedi creu argraff a'r rhai fu'n fethiant llwyr.

Chwythu'r chwiban olaf cyn dechrau?

Glyn Griffiths|14:34, Dydd Gwener, 6 Awst 2010

Sylwadau (0)

Mae Uwchgynghrair Cymru yn dechrau'r wythnos nesaf - i fod!

Ond, tydi'r dyfarnwyr ddim yn hapus ac yn bygwth mynd ar streic. A does dim syndod gan mai dim ond £80 y gêm maent yn eu cael eu talu am bob gêm.

Fe fyddai rhywun yn meddwl, yn sgil genedigaeth Uwchgynghrair y deuddeg disglair y byddai delwedd y dyfarnwyr hefyd yn cael ei ystyried.

Ond na, £5 o godiad mewn ffi sydd wedi cael ei gynnig, yn ôl pob sôn, a hyn ar gyfer sicrhau fod pêl-droed ar safon genedlaethol yn cael ei ddyfarnu yn deg!

Os am warchod, neu hyd yn oed magu, safonau cenedlaethol mewn unrhyw gyfundrefn yna nid rhywbeth i'w wneud yn rhad ac am y nesaf peth i ddim ydi'r ffordd o wneud hynny.

Cafodd ysgrifennydd Uwchgynghrair Cymru, sef John Deakin ei ddyfynnu mewn papur newydd yr wythnos yma yn dweud mai braint oedd cael dyfarnu a gwneud cynnydd o fewn y gêm ydi'r nôd, ond, meddai hefyd, arian ydi popeth erbyn heddiw . Ie rhyw agwedd amaturaidd iawn os yw hyn yn wir, a hyn yng nghyd-destun Uwchgynghrair cenedlaethol sydd yn ceisio codi safonau.

Mae'n amser i'r Uwchgynghrair - ynghanol yr holl heip am ddyfodol gwell ac am gyrraedd tuag at safon uwch a mwy cystadleuol - benderfynu beth mae ei angen sef dangos parch haeddiannol i'r dyfarnwyr fel ag i bawb arall a'u cynnwys yn llawn yn y drefn newydd, neu gyfundrefn amaturaidd sydd yn cymryd arni ei bod yn broffesiynol.

Mae dyfarnwyr yng Ngogledd Iwerddon yn derbyn dwywaith cymaint ag y mae dyfarnwyr Uwchgynghrair Cymru a does dim gwahaniaeth yn safon y timau, a does unrhyw ddyfarnwr yn y Weriniaeth yn derbyn cyn lleied chwaith, hyd y gwyddwn i.

Parch i ddyfarnwyr ydi un o arwyddeiriau cyfoes pêl-droed, ond a oes yna unrhyw un ym myd pêl-droed Cymru yn ymwybodol o hyn?

Ydi pêl-droed Cymru yn barod i gydnabod cyfraniadau pawb o fewn y gêm, neu a welwn y dyfarnwyr yn chwythu'r chwiban am egwyl annisgwyl hyd nes y cant dderbyn y parch sy'n deilwng iddynt a chael eu hystyried yn aelodau llawn cynhwysol o'r strwythur newydd o fewn Uwchgynghrair Cymru?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.