Gwell i ddod gan Wrecsam?
Mae yna hen ddywediad, yn mynd yn ôl i adeg y Rhufeiniaid medd rhai sydd o'r farn fod mudiadau neu filwyr yn ymarfer yn galed o dan arweiniad eu cadfridog, ac yn cael eu trefnu i dimau, ond yna siâp y timau yn cael eu hail-drefnu yn aml.
Daeth y sylwebydd yma i farn fod llawer o anawsterau yn cael eu hwynebu drwy ail-drefnu, gan greu'r ddelwedd o drefn a chynnydd, tra mewn gwirionedd roedd yr ail-drefnu parhaus yn creu dim mwy na dryswch, dadrith ac yn debygol o ladd ysbryd y garfan!
Mi es i weld Wrecsam ganol wythnos!
Roedd yna ddryswch mawr ymysg y cefnogwyr, a rhai yn ymddangos fel eu bod wedi eu dadrithio yn barod, yn dilyn canlyniadau siomedig, a'r anallu i sgorio.
Roedd hon felly, sef y gêm yn erbyn Luton, yn un bwysig.
Rhywsut neu'i gilydd roedd y Cadfridog Saunders wedi ail-drefnu pethau yn gywir, gyda Wrecsam yn dangos mwy o allu mewn awr a hanner na ddangoswyd ganddynt mewn tair gêm flaenorol.
Tybed a yw hyn wedi rhoi hwb i'r ysbryd?
Alla'i ond gobeithio na fydd yna ormod o ail-newid ac ail-drefnu yn y dyfodol agos, ac nad ydi carfan Wrecsam wedi dechrau dadrithio a drysu.
Bydd y gemau nesaf felly llawn mor bwysig, gyda'r gêm yn erbyn Caer bnawn Sul yn rhoi'r cyfle i beidio ag ail-drefnu yn ormodol am unwaith.

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 