Cicio nyth cacwn
'Annoeth cicio nyth cacwn' meddai'r hen gynghanedd. Annoeth cicio pen Robin van Persie hefyd!
Y Sadwrn diwethaf cythruddodd Emmanuel Adebayor holl gefnogwyr ei gyn glwb, Arsenal, wrth iddo ymestyn ei goes a tharo ei gyn cyd-chwaraewr Robin van Persie ar ei ben yn y gêm rhwng Manchester City ac Arsenal.

Os nad oedd hyn yn ddigon ynddo'i hun i ypsetio pawb, llwyddodd i sgorio, cyn rhedeg hyd y cae a dathlu yn bryfoclyd o flaen cefnogwyr ei gyn glwb, ond a oedd hefyd, fel cefnogwyr, yn feirniadol ohono tra oedd yn chwarae i'r Arsenal.
Aeth ati ar ôl y gêm i ymddiheuro am foesymgrymu o flaen y Gooners, ond erbyn hynny , mae'n debyg ei fod wedi cael ei orchymyn i wneud hynny er mwyn lles ei hun, ac o bosib er mwyn lleihau'r adwaith.
'Mae angen dyn cymwys doeth, i drin creadur annoeth', meddai cynghanedd arall; os felly bydd rhaid i Mark Hughes ddangos doethinebau Solomon os am gadw trefn ar Adebayor yn y dyfodol.
Hwyrach fod doethineb Arsene Wenger wedi arwain iddo ddod i'r canlyniad fod cadw trefn ar y blaenwr yn ormod o drafferth, a hwyrach dyna pam yr oedd Wenger yn hapus o weld Adebayor yn mynd i rywle arall i chwilio am gêm.
Rhyw bythefnos yn ôl, gwelwyd ffrwgwd ymysg cefnogwyr yn y gêm rhwng West Ham a Millwall. Oni all chwaraewyr ddod i ddeall fod ganddynt gyfrifoldeb i gadw trefn ar eu hunain a bod cyflyru a gwawdio cefnogwyr timau eraill, mewn dull lle y gallant greu storm mewn stadiwm, fod yn hollol wallgo' ac anghyfrifol.
Mae Mark Hughes eisoes wedi ceisio lleihau gweithrediadau ac ymddygiad Adebayor, ond tydi Arsene Wenger ddim yn rhannu'r doethineb neu'r esgusion yma.
Onid oes yna berygl i'r esgusion arwynebol wneud i chwaraewyr y dyfodol feddwl fod ymddwyn fel tarw cynddeiriog o ddyn bonheddig fod yn hollol dderbyniol cyn belled a'u bod yn barod i gynnig ymddiheuriad cyhoeddus am eu gweithrediadau.
Tybed serch hynny, beth oedd cynnwys y sgwrs breifat rhwng Hughes ac Adebayor y tu ôl i'r llenni?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 