Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2009

Ble aeth pawb?

Categorïau:

Dylan Jones|14:16, Dydd Iau, 26 Mawrth 2009

Sylwadau (1)

Mae gan Gymru ddwy gêm fawr dros y dyddiau nesaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd gyda'r Ffindir a'r Almaen yn ymweld â Chaerdydd.

Prin 14,000 o docynnau oedd wedi eu gwerthu ganol wythnos ar gyfer y gêm yn erbyn y Ffindir yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Er bod Cymdeithas Bêl Droed yn gobeithio y bydd dros 20,000 yn bresennol ar gyfer y gêm honno, mae'r diffyg diddordeb yn nhim ifanc John Toshack yn destun pryder.

Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd tîm Cymru yn cael y torfeydd gorau ymysg holl wledydd Ewrop diolch i docynnau rhesymol a cyfnod cymharol lwydddiannus Mark Hughes.

Wythnos yn ôl roedd dinas Caerdydd dan ei sang gyda miloedd o Wyddelod wedi heidio i dde Cymru ar gyfer y gêm rygbi fawr ar benwythnos olaf y Chwe Gwlad.

Wrth gwrs does 'na ddim Camp Lawn yn y fantol y Sadwrn hwn - ond mae'r gêm yn hollbwysig i obeithion Cymru a'r Ffindir o gyrraedd Cwpan y Byd 2010.

Mae rhai o chwaraewyr Cymru wedi erfyn ar gefnogwyr Cymru i'w cefnogi gan ddatgan nad yw stadiwm hanner gwag yn gwneud fawr ddim i'w hysbrydoli.

Ond efallai na ddaw'r cefnogwyr hynny yn eu miloedd i'w cefnogi hyd nes y bydde nhw'n trechu tim o bwys.

Mae'r gemau yn erbyn y Ffindir a'r Almaen yn gyfle gwych iddyn nhw wneud hynny gan atgyfodi eu gobeithion prin o gyrraedd De Affrica yr haf nesaf.

Bydd criw Ar y Marc yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Ffindir ac yn trafod y ffilm 'The Damned Utd' ar y rhaglen fore Sadwrn am 08:30 GMT.

Cwpan Ewrop = Cwpan Lloegr

Categorïau:

Dylan Jones|14:41, Dydd Gwener, 13 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

A yw llwyddiant Lerpwl, Man Utd, Arsenal a Chelsea yng Nghynghrair y Pencampwyr yr wythnos yma yn profi fod safon Uwchgynghrair Lloegr yn uwch nag unrhyw gynghrair arall yn y byd erbyn hyn?

Does 'na'r un o glybiau'r Eidal ar ôl yn y gystadleuaeth tra bod cynrychiolaeth Sbaen lawr i ddau glwb wedi i gewri Madrid - Atletico o Real - golli yn ystod yr wythnos.

Bayern Munich - chwalodd Sporting Lisbon 12-1 dros ddau gymal - a Barcelona yw'r unig ddau glwb sy'n weddill mae rhywun yn teimlo sydd â'r gallu i herio clybiau Lloegr.

Bydd yr enwau cael eu tynnu allan o'r het ar gyfer rownd yr wyth olaf ddydd Gwener nesaf gyda'r posibilrwydd y gall clybiau Lloegr wynebu ei gilydd.

Mae tri o glybiau Lloegr wedi cyrraedd y rownd gyn derfynol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gyda chynrychiolaeth ymhob un o'r pedair ffeinal ddiwethaf.

Tydi hi yn fawr o syndod bod cewri Lloegr yn gwneud gystal yn y gystadleuaeth o gofio cyfoeth yr Uwchgynghrair.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.