Cythreuliaid canu
Ma' rhywun yn disgwyl distawrwydd mewn llyfrgell neu gapel. Ond gêm bêl-droed?
Mae cefnogwyr Middlesbrough yn gandryll ar ôl derbyn llythyr gan y clwb yn gofyn iddynt fod yn ddistaw yn ystod gemau yn y Riverside.
Gofynnwyd i gefnogwyr Boro ddistewi wedi cwynion eu bod yn gwneud gormod o sŵn yn ystod gemau.
Mewn llythyr dywedodd y clwb fod croeso i'r cefnogwyr wneud sŵn wedi gôl, ond i gadw'n ddistaw ar adegau eraill.
Ac o gofio bod Boro 'di sgorio deg gôl gartref yn unig y tymor hwn mae'n beryg y bydd y lle yn dawel fel y bedd o hyn allan!
Dw'n i'm am selogion Boro ond pa gefnogwyr sy'n canu orau?
Leeds United - Marching on Together? Lerpwl - You'll Never Walk Alone? Caerdydd - Gŵyr Harlech?
Rhowch eich cynigion chi.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 