Cymru v Gwlad Pwyl
Efallai bod Cymru wedi osgoi'r rhew a'r eira am ychydig ddyddiau ond a'i gwastraff amser oedd y gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad Pwyl ym Mhortiwgal?
Colli oedd hanes tîm Cymru - gyda gŵr o Frasil (ia, Brasil!) yn sgorio unig gôl y gêm i'r Pwyliaid o flaen torf bitw.
Ac i wneud pethau'n waeth fe ffraeodd capten Craig Bellamy gyda chefnogwr ar ddiwedd y gêm.
Fydde hi ddim di bod yn well i dîm John Toshack fod wedi aros adref a 'di diodde'r oerfel fel y gweddill ohona ni?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 