Ysgrifennu: Video playlist

Part ofCymraeg Ail laithYsgrifennu

Now playing video 5 of 15

Arwyddion ffyrdd dwyieithog

Description

Hanes protestiadau dros arwyddion ffyrdd dwyieithog - un o flaenoriaethau pwysicaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o’r 1960au ymlaen. Bu’r ymgyrch yn llwyddiannus ar y cyfan, gan fod arwyddion dwyieithog i’w gweld ar ffyrdd ledled Cymru erbyn hyn.

Classroom Ideas

Mae hwn yn glip gellir ei ddefnyddio wrth astudio agweddau o Gymru a’i diwylliant. Gallwch chi ddefnyddio’r clip i sbarduno trafodaeth am ddwyieithrwydd yng Nghymru ac mae cyfle hefyd i ddisgyblion fynegi barn bersonol am egwyddorion a gweithredoedd y protestwyr gymerodd ran yn yr ymgyrch arwyddion ffyrdd. Tasg arall bosibl fyddai gofyn i ddisgyblion fynegi barn bersonol yn ysgrifenedig ar ffurf llythyr ffurfiol neu erthygl.