Ysgrifennu: Video playlist

Part ofCymraeg Ail laithYsgrifennu

Now playing video 15 of 15

Refferendwm Datganoli

Description

Adroddiad newyddion a ddarlledwyd ar y diwrnod pan gyhoeddwyd canlyniadau Refferendwm 1997 pan bleidleisiodd Cymru o blaid datganoli. Roedd canlyniad y refferendwm yn agos iawn a gwelir ymateb arweinyddion a chefnogwyr y ddwy ymgyrch wrth i ganlyniadau’r gwahanol etholaethau ddod i law.

Classroom Ideas

Mae’r clip hwn yn cynnig cyfle i drafod pwysigrwydd canlyniad reffrendwm datganoli 1997 i Gymru a sut mae’r hyn sydd wedi digwydd yn ei sgil yn effeithio bywydau’r disgyblion. Ceir cyfle hefyd i egluro system wleidyddol Cymru ac i chwarae rôl Prif Weinidog Cymru, Aelod Cynulliad neu aelod o’r cyhoedd, wrth drafod pwnc llosg lleol neu genedlaethol.