Boddi pentref
Description
Ffilm o bentref wedi’i foddi. Adeiladwyd y model mewn stiwdio teledu er mwyn cofio boddi pentref Capel Celyn yn ardal y Bala ym 1965. Boddwyd y pentref hwn a’r cwm o’i gwmpas gan Gyngor Dinas Lerpwl er mwyn adeiladu cronfa ddŵr Tryweryn (er gwaethaf protestiadau mawr yng Nghymru ar y pryd). Cyn boddi Capel Celyn, chwalwyd yr adeiladau i’r llawr a symudwyd y fynwent i ardal arall, felly mae’r ffilm yn gamarweiniol i raddau. Mae wedi’i chynnwys yma am ei bod yn codi ymateb emosiynol gan y gwyliwr, sy’n adlewyrchu teimladau cyn-bentrefwyr Capel Celyn.
Classroom Ideas
Dyma glip gellir ei ddefnyddio wrth wneud gwaith am Gymru a’i diwylliant. Byddai’n bosibl gofyn i ddisgyblion ymateb i’r clip a gofyn iddyn nhw beth maen nhw’n ei feddwl sy’n cael ei ddangos ynddo. Anogwch nhw i restru ansoddeiriau sy’n dod i’r meddwl wrth iddyn nhw wylio’r clip. Gellir gofyn i ddisgyblion ymchwilio hanes Tryweryn, trafod y prif ddigwyddiadau a mynegi eu barn bersonol yn ysgrifenedig mewn erthygl neu lythyr ffurfiol.
Now playing video 11 of 15
- 2:39

- 1:25

- 3 of 15
2:33
- 1:46

- 8 of 15
2:16
- 10 of 15
3:48
- Now playing1:04

- Up next3:09

- 13 of 15
2:27
- 1:36
