Y Llyfrgell Genedlaethol
Description
Ymweliad â’r Llyfrgell Genedlaethol sydd ar fryn uwchben Aberystwyth. Yno mae trysorau mwyaf Cymru - llawysgrifau, llyfrau, lluniau, mapiau, tapiau, ffilmiau - yn cael eu cadw. Mae’r eitem yn olrhain hanes Llyfr Gwyn Rhydderch.
Classroom Ideas
Byddai’n bosibl defnyddio’r clip hwn i gyflwyno’r Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o waith am ddiwylliant Cymru. Gellir gosod tasg ymchwil i ddisgyblion a gofyn iddyn nhw ddarganfod mwy am rôl y Llyfrgell ac am y trysorau sy’n cael eu cadw yno. Mae cyfle i osod tasg gwrando a deall wedi ei seilio ar y clip a’i defnyddio fel sbardun i drafodaeth am bwysigrwydd y Llyfrgell i Gymru. Gellir defnyddio’r clip hefyd wrth ymdrin â thema hamdden. Mae’n cynnig cyfle i drafod hoffter y disgyblion o ddarllen a’r math o lyfrau sydd orau ganddyn nhw. Hefyd, byddai’n bosibl trafod beth mae’r disgyblion yn hoffi ei wneud yn ystod oriau hamdden. Mae’n gyfle i ofyn i ddisgyblion ddarllen llyfrau Cymraeg ac i osod tasgau darllen a deall.
Now playing video 4 of 15
- 2:39

- 1:25

- 3 of 15
2:33
- Now playing2:58

- Up next3:20

- 1:46

- 8 of 15
2:16
- 10 of 15
3:48
- 1:04

- 3:09

- 13 of 15
2:27
- 1:36
