Noson Lawen
Description
Braslun o hanes canu poblogaidd cynnar yng Nghymru o’r 1940au a’r 1950au. Y noson lawen oedd prif gyfrwng adloniant y Gymru wledig yn y cyfnod hwn, yn gwneud sêr o Bob Roberts Tai’r Felin, Triawd y Coleg ac ati. Mae’n cynnwys archif o berfformiadau gan Bob Roberts a Thriawd y Coleg o raglen deledu Noson Lawen, a chyfweliad gyda Dafydd Iwan.
Classroom Ideas
Byddai’n bosibl defnyddio’r clip hwn wrth wneud gwaith ar ganu pop Cymraeg. Ceir cyfle i ddisgyblion fynegi barn am y gerddoriaeth a’r perfformiadau yn y clip a gallan nhw gymharu’r gerddoriaeth sydd yn y clip gyda cherddoriaeth pop Cymraeg cyfoes. Tasg arall allai ddeillio o’r clip ydy ysgrifennu adolygiad o’u hoff gerddoriaeth neu bortread o’u hoff berfformiwr gan ddefnyddio’r trydydd person ac ansoddeiriau priodol.
Now playing video 7 of 15
- 2:39

- 1:25

- 3 of 15
2:33
- Now playing1:46

- Up next2:16

- 10 of 15
3:48
- 1:04

- 3:09

- 13 of 15
2:27
- 1:36
