Refferendwm 1997
Description
Adroddiad newyddion Dewi Llwyd a Bethan Rhys Roberts y diwrnod canlynol i’r noson gyffrous, Medi 18fed, 1997, pan bleidleisiodd Cymru “ie”, dros ddatganoli i Gymru. Roedd canlyniad y refferendwm yn glos iawn. O Newyddion darlledwyd yn gyntaf ar 19eg Medi 1997.
Classroom Ideas
Mae gwylio’r clip yma yn cynnig cyfle i astudio ffurf adroddiad newyddion teledu yn ogystal â’r cywair iaith, yr eirfa a’r ymadroddion sy’n cael eu defnyddio. Gellir gofyn i’r disgyblion i ysgrifennu adroddiad ar gyfer y cyfryngau ar ddigwyddiad o bwys yn eu hardal hwy neu yn ymwneud â Chymru. Pwnc trafodaeth ddiddorol allai godi o wylio’r clip yw ‘Beth sy’n gwneud Cymru yn wlad unigryw ac sy’n ein gosod ar wahan i weddill gwledydd Prydain?’ Gellir gosod y disgyblion mewn pârau neu grŵp i drafod hyn a chyflwyno eu canfyddiadau ar ffurf poster neu gyflwyniad trwy ddefnyddio TGCh. Gall arwain hefyd at waith mynegi barn a safbwynt ar annibyniaeth i Gymru fel y cam nesaf yn dilyn refferendwm 1997.
Now playing video 18 of 19
- 1:41

- 1:08

- 1:04

- 1:18

- 2:21

- 9 of 19
1:00
- 11 of 19
1:50
- 17 of 19
2:31
- Now playing2:31

- Up next1:37
