Ysgrifennu: Video playlist

Part ofCymraegYsgrifennu

Now playing video 12 of 19

Bryn Terfel yn 30 Oed

Description

Eitem ar Bryn Terfel ar drothwy ei ben-blwydd yn 30 oed. Olrheinir ei yrfa o’i gyfnod yn ddisgybl ysgol i fod yn ganwr byd-enwog.

Classroom Ideas

Gall y clip hwn arwain at waith cronolegol yn crynhoi a chyflwyno gwybodaeth am gerrig milltir bywyd Bryn Terfel ar ffurf llinell amser. Gellir ymestyn y disgyblion i greu llinell debyg i’w harwr hwy neu i gyflwyno cerrig milltir ei bywyd hwy i’r dosbarth. Mae hon yn dasg y gellir ei chyflwyno ar lafar, trwy gyfrwng TGCh neu yn ysgrifenedig. Gellir defnyddio’r clip hwn i ysgogi’r disgyblion i ysgrifennu darn personol am eu breuddwydion hwy ar gyfer y dyfodol.