Pobl Tryweryn 1967
Description
Ym 1965, er gwaethaf protestiadau mawr, boddwyd pentref Capel Celyn er mwyn creu cronfa ddŵr newydd Tryweryn. Dyma gyfweliadau anhygoel o drist, o 1967 gydag ychydig bobl a chael aros yn yr ardal wedi’r boddi. Ceir cyfweliad ag un wraig sy’nsôn am yr hyn roedd hi’n hiraethu amdano - sef cwmnïaeth cymdogion. Pwysleisir bod creu’r gronfa ddŵr wedi gwasgaru a dinistrio cymdogaeth glos. O Ar Fin y Llyn : Tryweryn darlledwyd ar 4ydd Awst 1967.
Classroom Ideas
Wedi gwylio’r clip hwn gellir gofyn i’r disgyblion ysgrifennu cyfres o ymsonau ar y testun, ‘Tri Diwrnod ym Mywyd Plentyn o Gapel Celyn’ (diwrnod cyn y boddi, diwrnod gadael y fferm a diwrnod ar ôl boddi’r cwm). Gellir trafod ffurf ymson, cywair iaith a berfau presennol. Mae’r’ clip yn cynnig y cyfle i chwarae rôl neu i greu cyflwyniad dramatig yn olrhain hanes diwrnod ym mywyd teulu ar ddiwrnod gadael y fferm. Mae’r clip hefyd yn gyfle i astudio tafodiaith Meirionnydd.
Now playing video 7 of 19
- 1:41

- 1:08

- 1:04

- 1:18

- Now playing2:21

- Up next3:53

- 9 of 19
1:00
- 11 of 19
1:50
- 17 of 19
2:31
- 2:31
