Ysgrifennu: Video playlist

Part ofCymraegYsgrifennu

Now playing video 16 of 19

Protestiadau Tryweryn 1965

Description

Ym 1965, er gwaethaf protestiadau mawr, boddwyd pentref Capel Celyn er mwyn creu cronfa ddŵr newydd Tryweryn, i gyflenwi dŵr ar gyfer dinas Lerpwl. Gwelir gwaith adeiladu’r argae a rhai o’r protestiadau.

Classroom Ideas

Byddai’n bosib defnyddio’r clip hwn i gyflwyno cyfnod pwysig yn hanes Cymru ac annog ymateb disgyblion i foddi Cwm Tryweryn. Gallai hyn arwain at ddarllen pellach er mwyn cywain a chyflwyno gwybodaeth am yr hanes. Gellir defnyddio’r wybodaeth ar gyfer cynnal cyfarfod cyhoeddus yn y dosbarth a rhannu’r disgyblion mewn i garfannau gwahanol e.e. trigolion y pentref, trigolion a chynghorwyr dinas Lerpwl, y gwleidyddion a phrotestwyr. Mae’r gwaith yma’n cynnig cyfle i areithio a mynegi barn. Gallai’r clip yma fod yn ysgogiad i fynd i chwilio am drawsdoriad o gerddi a chaneuon a ysbrydolwyd gan y digwyddiad hwn neu i greu cerddi neu ganeuon protest. Gellir cyflwyno mesur y faled fel dull da o grynhoi ac adrodd hanesyn neu ddarn o newyddion ar ffurf mydr ac odl. Gallai’r disgyblion fynd ati i greu eu baledi eu hunain am ddarn o newyddion lleol a’u perfformio yn null y baledwr.