Ysgrifennu: Video playlist

Part ofCymraegYsgrifennu

Now playing video 5 of 19

Sea Empress - Llygredd

Description

Trafodaeth ar drychineb y Sea Empress ym 1996. Dangosir effeithiau’r llygredd ar draethau Sir Benfro, yr adar môr, y bobl leol a’r diwydiant twristiaeth, o ganlyniad i’r trychineb.

Classroom Ideas

Gellir defnyddio’r clip hwn fel sbardun ar gyfer gwaith llafar (chwarae rôl neu drafodaeth grŵp) neu dasg ysgrifenedig megis erthygl neu adroddiad papur newydd ar destunau fel llygredd neu drychinebau amgylcheddol. Mae yna wybodaeth glir a thystiolaeth am effaith llygredd ac olew yn benodol ar y blaned a bywyd ei phobl. Gellir annog y disgyblion i ymchwilio a darllen ymhellach i gasglu gwybodaeth am y Sea Empress neu drychineb gyffelyb cyn gosod tasg i greu adroddiad newyddiadurol. Gellir defnyddio’r clip i astudio adeiladwaith adroddiad yn ogystal â’r cywair iaith a’r ymadroddion a ddefnyddir.