Adferiad WeimarY berthynas gyda Chynghrair y Cenhedloedd

Rhwng 1923 a 1929, profwyd oes aur yn yr Almaen o dan Weriniaeth Weimar. Helpodd y gwleidydd blaenllaw, Gustav Stresemann, i sicrhau benthyciadau o America i adfer yr economi, a chytundebau rhyngwladol i helpu i ail-adeiladu lle’r Almaen ymhlith prif genhedloedd y byd. Pam cafodd blynyddoedd Stresemann eu hystyried yn oes aur?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Y berthynas gyda Chynghrair y Cenhedloedd

Fel rhan o’i bolisi dyhuddiad, roedd Gustav Stresemann yn awyddus i lywio’r Almaen i mewn i Gynghrair y Cenhedloedd. Sefydlwyd y corff rhyngwladol hwn gan Gytundeb Versailles ac ymunodd yr Almaen ym Medi 1926. Roedd angen cael mynediad i’r Gynghrair er mwyn i Gytundeb Locarno ddod i rym.

Rhoddwyd statws grym mawr i’r Almaen ar Gyngor y Gynghrair fel aelod parhaol ac felly roedd ganddi’r hawl i osod feto ar benderfyniadau.

Oherwydd y cyfyngiadau milwrol a osodwyd yn Versailles, caniatawyd yr Almaen i beidio â chymryd rhan mewn ymladd ar y cyd gan y Gynghrair yn erbyn gwrthwynebwyr. Defnyddiodd yr Almaen ei safle fel aelod parhaol i godi materion oedd o fudd i’r Almaenwyr o fewn y Gynghrair.

Buddsoddiad yr Unol Daleithiau

Rhwng 1924 ac 1930, derbyniodd yr Almaen 135 o fenthyciadau hirdymor yn gyfanswm o $1,430 miliwn. Daeth $1,293 miliwn o goffrau’r Unol Daleithiau. Cawsant fenthyciadau tymor byr hefyd yn gyfanswm o $1,560 miliwn.

Daeth y benthyciadau Americanaidd yn uniongyrchol oddi wrth y llywodraeth ac oddi wrth fuddsoddwyr preifat. Fe’u rhoddwyd i lywodraethau ffederal a gwladwriaethol yr Almaen ill dwy i godi arian ar gyfer gwahanol raglenni gwario, fel tai. Aeth benthyciadau o America i gwmnïau preifat hefyd i’w helpu i dyfu.

Buddsoddodd cwmnïau Americanaidd yn uniongyrchol. Adeiladwyd ffatrïoedd gan 79 o gwmnïau Americanaidd, fel General Electric (GE) a General Motors.

O ganlyniad i’r buddsoddi hwn, câi Americanwyr daliadau llog ar eu benthyciadau, neu daliadau bonws o’u buddsoddiadau.