Adferiad WeimarPact Locarno

Rhwng 1923 a 1929, profwyd oes aur yn yr Almaen o dan Weriniaeth Weimar. Helpodd y gwleidydd blaenllaw, Gustav Stresemann, i sicrhau benthyciadau o America i adfer yr economi, a chytundebau rhyngwladol i helpu i ail-adeiladu lle’r Almaen ymhlith prif genhedloedd y byd. Pam cafodd blynyddoedd Stresemann eu hystyried yn oes aur?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Pact Locarno

Nod Gustav Stresemann yn fras yn ei bolisi tramor oedd adfer grym a ffyniant yr Almaen. Ond roedd yn hollol ymwybodol nad oedd yr Almaen mewn sefyllfa i herio grym milwrol y Cynghreiriaid a diwygio Cytundeb Versailles trwy rym. Yn lle hynny, dilynodd Stresemann bolisi o gydweithredu â’r Gorllewin a chymysgedd o gymodi a gwasgu ar y pwerau eraill.

Sylweddolai Stresemann na allai gwledydd eraill fforddio gadael i economi’r Almaen ddymchwel yn llwyr. Yr enw ar ei strategaeth oedd Erfüllungspolitik (dyhuddiad), sef cyflawni neu gydymffurfio â thelerau Versailles i wella’r berthynas â Phrydain a Ffrainc.

Fel rhan o’i bolisi o ddyhuddiad, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd gweinidogion tramor. Trafodwyd Pact Locarno yn Locarno, y Swistir, ar 5–16 Hydref 1925 a’u llofnodi’n swyddogol yn Llundain ar 1 Rhagfyr. Arwyddwyd y Pact gan yr Almaen, Prydain, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Eidal.

Beth benderfynwyd?

  • Derbyniodd Stresemann ffiniau gorllewinol yr Almaen (ond nid y rhai dwyreiniol).
  • Cytunodd pob gwlad i droi cefn ar ddefnyddio grym a goresgyniad, ac eithrio fel hunanamddiffyniad.
  • Rhoddodd y Pact sicrwydd i Ffrainc ynglŷn â’i ffiniau ac i’r Almaen ynglŷn ag unrhyw ymosodiad/oresgyniad gan Ffrainc, fel a ddigwyddodd yn 1923.
  • Llofnododd yr Almaen gytundebau hefyd gyda Gwlad Pwyl a Tsiecoslofacia yn troi cefn ar ddefnyddio grym ac yn addo cyfeirio unrhyw anghydfod yn y dyfodol i dribiwnlys cyflafareddu neu i’r Llys Parhaol dros Gyfiawnder Rhyngwladol. (Nid oedd hyn fodd bynnag yn golygu bod yr Almaen yn derbyn ei ffiniau dwyreiniol).

Effaith y Pact

Fe wnaeth y cytundebau wella’r berthynas rhwng gwledydd Ewrop hyd at 1930. Arweiniodd at y gred y ceid setliad heddychlon i unrhyw anghydfod yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at hyn yn aml fel ysbryd Locarno. Atgyfnerthwyd hyn ymhellach pan ymunodd yr Almaen â Chynghrair y Cenhedloedd yn 1926.

Aeth y Cynghreiriad o Gwlen, a fu wedi’i meddiannu ganddynt, yn Rhagfyr 1925. Rhoddwyd Gwobr Heddwch Nobel i brif negodwyr y Pact – Chamberlain yn 1925 a Briand a Stresemann yn 1926.